BBC Home
Explore the BBC
Chwiliwch yn Gymraeg
---------------
---------------
---------------
BBC Vocab
OFF / I FFWRDD
» Turn ON
Troi YMLAEN
» What is VOCAB? Beth yw GEIRFA?
SAFLEOEDD
ERAILL BBC
---------------
NEWYDDION
MEWN IEITHOEDD ERAILL
Arabic
Espanol
Russian
Chinese
Diweddarwyd: Dydd Gwener, 19 Hydref 2007, 07:25 GMT 08:25 UK
Dinistrio neuadd oes Fictoria
Neuadd Gwyn, Castell-nedd ar dân nos Iau
Cychwynnodd y tân tua 9pm nos Iau

Mae 'na ymchwiliad ar y gweill i dân ddinistriodd neuadd Fictorianaidd yng Nghastell-nedd dros nos.

Roedd Neuadd Gwyn yng nghanol y dref yn cael ei hadnewyddu ar gost o £4 miliwn.

Cafodd 70 o ddiffoddwyr tân eu galw am 9pm nos Iau am fod fflamau yn yr adeilad pedwar llawr.

Y gred yw bod y tân wedi cynnau yn nho'r adeilad. Chafodd neb ei anafu.

Cafodd nifer o bobl eu symud o adeiladau cyfagos.

Roedd yr adeilad i fod i gael ei droi'n ganolfan gelfyddydol.

Synnu'n fawr

Bore Gwener roedd nifer o drigolion yr ardal yn synnu'n fawr at faint y difrod.

Fe wnaeth y tân ailgynnau tua 8am yn rhan o'r adeilad.

Ond roedd diffoddwyr yn rheoli'r fflamau, meddai gohebydd BBC Cymru Aled Hughes.

"Mae pobl yn geg agored wrth weld y neuadd y bore 'ma ac mae talp o hanes yn mudlosgi o 'mlaen i," meddai.

Dywedodd fod pobl yn "gegagored wrth weld y neuadd".

Mae disgwyl i ffyrdd ger y Neuadd, Stryd y Berllan a Heol Llundain, fod ar gau ddydd Gwener.

'Colled'

"Roedd Neuadd Gwyn yn adeilad Fictorianaidd arbennig fu'n gwasanaethu pobl Castell-nedd am genedlaethau," meddai AS Castell-nedd, Peter Hain.

"Mae nifer o ddigwyddiadau wedi cael eu cynnal yma.

"Fe fydd yn golled fawr."

Cafodd yr adeilad ei godi yn y 1880au ac roedd disgwyl iddo gael ei ailagor y flwyddyn nesaf.




CYSYLLTIADAU RHYNGRWYD:
Dyw'r BBC ddim yn gyfrifol am gynnwys safleoedd rhyngrwyd allanol


Gwasanaethau ebost | ticer newyddion | Amodau Defnyddio | Preifatrwydd a Chwcis


Yn ôl i'r brig ^^