BBC Home
Explore the BBC
Chwiliwch yn Gymraeg
---------------
---------------
---------------
BBC Vocab
OFF / I FFWRDD
» Turn ON
Troi YMLAEN
» What is VOCAB? Beth yw GEIRFA?
SAFLEOEDD
ERAILL BBC
---------------
NEWYDDION
MEWN IEITHOEDD ERAILL
Arabic
Espanol
Russian
Chinese
Diweddarwyd: Dydd Gwener, 19 Hydref 2007, 10:18 GMT 11:18 UK
Addysg Gwynedd: Ysgolion i gau?
Pencadlys Cyngor Gwynedd
Bydd dogfen ymgynghorol yn cael ei chyhoeddi

Mae disgwyl i Gyngor Gwynedd gyhoeddi dogfen ddadleuol am ddyfodol ysgolion cynradd y sir ddydd Gwener.

Ac mae'n debyg y bydd rhaid i rai ysgolion gau, y bydd rhai'n rhannu penaethiaid a rhai newydd yn cael eu hadeiladu.

Mae'r Cynghorydd Simon Glyn wedi ymddiswyddo o grŵp Plaid Cymru ar Gyngor Gwynedd ar drothwy'r cyhoeddiad.

Dywedodd wrth BBC Cymru y bydd yn annog pobl i roi eu safbwyntiau gwleidyddol i'r neilltu ac uno yn yr ymgyrch yn erbyn y cynlluniau gan y cyngor.

Fe fydd rhaid i'r ddogfen, sy'n esbonio sut mae'r cyngor am ad-drefnu addysg gynradd, gael sêl bendith cynghorwyr cyn cyfnod o ymgynghori.

Mae'r cyngor wedi dweud yn aml na fyddai'n bosib dilyn y drefn bresennol am fod nifer y disgyblion yn dal i ostwng.

Dywedodd swyddogion addysg Gwynedd fod mwy na 50 o gyfarfodydd ymgynghorol wedi bod yn y sir.

Fe fydd cynllun drafft ar gyfer Gwynedd gyfan yn cael ei gyflwyno i Bwyllgor Plant a Phobl Ifanc y cyngor ar Hydref 25.

Yn gynharach yr wythnos hon ymddiswyddodd y cynghorydd â chyfrifoldeb am addysg ar fwrdd Cyngor Gwynedd, Penri Jones.

Mae Fforwm Llywodraethwyr Ysgolion Llŷn yn honni y bydd y ddogfen yn cynnwys argymhelliad i gau tair ysgol yno ac uno chwech arall i greu dwy ysgol ffederal.

Ymddiswyddo

Yn gynharach yn yr wythnos fe wnaeth Mr Glyn ymddiswyddo o weithgor gafodd ei sefydlu gan Grŵp Plaid Cymru i ystyried dyfodol ysgolion bach.

Plaid Cymru yw'r blaid fwyaf ar y cyngor.

Mae'r cynghorydd yn honni bod penderfyniadau am ddyfodol addysg gynradd yn cael eu tynnu oddi ar gynghorwyr a bod swyddogion ac uwchgynghorwyr yn gwneud y penderfyniadau.

Dywedodd y Cynghorydd Richard Parry Hughes, arweinydd y cyngor, mai dogfen ymgynghorol sy'n cael ei chyhoeddi ac y bydd yn sail i drafodaethau pellach.

Mae'r hyn sy'n cael ei drafod yng Ngwynedd yn digwydd mewn rhannau eraill o Gymru.

Eisoes mae cynghorwyr Powys wedi cefnogi cynllun dadleuol i gau tair ysgol gynradd yn y sir ac mae trafodaethau am ddyfodol ysgolion eraill wedi eu gohirio.

Mae dyfodol ysgolion yng Nghaerdydd, Sir Gaerfyrddin a Sir Ddinbych wedi bod cael ei drafod yn yn ddiweddar.




HEFYD
Addysg Gwynedd: Ymddiswyddiad
15 Hyd 07 |  Newyddion
Cyfarfod: Diwedd disymwth
22 Maw 07 |  Newyddion
'Na' i gynllun ad-drefnu addysg
27 Hyd 06 |  Newyddion
Addysg: 'Poeni am ymgynghori'
08 Mai 06 |  Newyddion
Ysgolion bach: 'Y ffordd ymlaen'
07 Gorff 06 |  Newyddion

CYSYLLTIADAU RHYNGRWYD:
Dyw'r BBC ddim yn gyfrifol am gynnwys safleoedd rhyngrwyd allanol


Gwasanaethau ebost | ticer newyddion | Amodau Defnyddio | Preifatrwydd a Chwcis


Yn ôl i'r brig ^^