Comisiwn: Nam technegol ar fai
|
Mae'r Comisiwn Cydraddoldeb a Hawliau Dynol yng Nghymru wedi cael ei feirniadu am nad yw'r wefan yn ddwyieithog.
Dywedodd Cymdeithas yr Iaith Gymraeg fod y comisiwn "yn dymuno trin y Gymraeg fel iaith eilradd i'r Saesneg".
Daeth y comisiwn i rym ar Hydref 1 pan unwyd y Comisiwn Cyfle Cyfartal, y Comisiwn Cydraddoldeb Hiliol a'r Comisiwn Hawliau Anabledd.
Dywedodd llefarydd ar ran y Comisiwn: "Oherwydd swmp a sylwedd yr holl ddeunydd ar wefannau'r tri chorff sydd wedi cael eu huno, mae'n amhosib i'n meddalwedd ymdopi.
"Mae datrys hyn yn flaenoriaeth.
"Dyw hyn ddim yn ddigon da, yn bendant, ac ry'n ni'n annog pobl i fod yn amyneddgar.
"Ry'n ni'n gobeithio y byddwn ni wedi datrys yr anhawster technegol o fewn y mis, ac ry'n ni'n bwriadu lansio'r wefan ddwyieithog yn llawn ddechrau'r flwyddyn newydd.
"Os yw unrhyw un eisiau deunydd yn Gymraeg, gallai gysylltu â llinell gymorth y comisiwn ac fe wnawn ni ein gorau i gwrdd â'i ofynion."
'Cam'
Roedd Cymdeithas yr Iaith Gymraeg wedi ysgrifennu at y comisiwn i gwyno ei fod wedi methu â rhoi cydraddoldeb i'r Gymraeg.
"Tra bod y mudiad yn dymuno pob llwyddiant i'r comisiwn newydd, rhaid i ni fynegi ein siom fod y corff, o'r dechrau, yn dymuno trin y Gymraeg fel iaith eilradd i'r Saesneg.
"Nid dyma'r math o arweiniad y byddai rhywun yn ei ddisgwyl gan gorff sy'n sefyll dros gydraddoldeb a hawliau dynol yng Nghymru."
Dywedodd Meirion Prys Jones, prif weithredwr Bwrdd yr Iaith Gymraeg: "Rydyn ni'n siomedig nad yw gwefan y Comisiwn Cydraddoldeb a Hawliau Dynol yn ymddangos yn y Gymraeg.
"Wedi dweud hynny, rydyn ni'n deall fod y comisiwn yn bwriadu creu gwefan ddwyieithog ac mai problemau technolegol tymor byr sydd wrth wraidd y diffyg darpariaeth ar hyn o bryd.
"Byddwn ni fel bwrdd yn cadw golwg ar y sefyllfa ac edrychwn ymlaen at weld gwefan ddwyieithog yn ymddangos yn y dyfodol agos."