BBC Home
Explore the BBC
Chwiliwch yn Gymraeg
---------------
---------------
---------------
BBC Vocab
OFF / I FFWRDD
» Turn ON
Troi YMLAEN
» What is VOCAB? Beth yw GEIRFA?
SAFLEOEDD
ERAILL BBC
---------------
NEWYDDION
MEWN IEITHOEDD ERAILL
Arabic
Espanol
Russian
Chinese
Diweddarwyd: Dydd Llun, 15 Hydref 2007, 19:39 GMT 20:39 UK
Airbus: Trosglwyddo'r awyren fawr
Awyren Singapore Airlines A380
Fe fydd yr awyren yn cychwyn cludo teithwyr cyn diwedd y mis

Cafodd awyren fawr gynta cwmni Airbus, y superjumbo, ei chyflwyno i'r perchnogion newydd ddydd Llun.

Cwmni Singapore Airlines gafodd yr awyren.

Fe fyddan nhw rwan yn dechrau cludo teithwyr cyn diwedd y mis.

Fe fydd y gwasanaeth yn mynd rhwng Singapore a Sydney.

Roedd 'na ddathlu i weithwyr Airbus yng Nghymru wrth i'r awyren gael ei throsglwyddo.

Yn y ffatri ym Mrychdyn mae'r adenydd yn cael eu cynhyrchu.

Ym mhencadlys Airbus yn Ffrainc yr oedd y cyflwyniad swyddogol, er bod hi flwyddyn a hanner yn hwyr.

Dyma'r awyren fwya erioed i deithwyr ac mae archebion drwy'r byd ar gyfer bron 200.

Er bod 'na bryderon wedi bod yn ddiweddar wrth i'r cwmni ailstrwythuro a cholli 10,000 o swyddi drwy Ewrop roedd y gweithwyr ym Mrychdyn yn falch o weld yr awyren.

"Dwi ddim yn siwr be i feddwl, mae hi mor fawr," meddai Ben Jones.

"Mae pawb sy'n gweithio yn gwybod faint o waith sydd wedi cael ei wneud ac mae hi wedi cymryd pedair blynedd i gyrraedd fama," meddai Rhydian James.

"Mae gweld yr awyren yn mynd i'r cwsmer yn gam mawr," ychwanegodd.




CYSYLLTIADAU RHYNGRWYD:
Dyw'r BBC ddim yn gyfrifol am gynnwys safleoedd rhyngrwyd allanol


Gwasanaethau ebost | ticer newyddion | Amodau Defnyddio | Preifatrwydd a Chwcis


Yn ôl i'r brig ^^