BBC Home
Explore the BBC
Chwiliwch yn Gymraeg
---------------
---------------
---------------
BBC Vocab
OFF / I FFWRDD
» Turn ON
Troi YMLAEN
» What is VOCAB? Beth yw GEIRFA?
SAFLEOEDD
ERAILL BBC
---------------
NEWYDDION
MEWN IEITHOEDD ERAILL
Arabic
Espanol
Russian
Chinese
Diweddarwyd: Dydd Llun, 15 Hydref 2007, 08:21 GMT 09:21 UK
Addysg Gwynedd: Ymddiswyddiad
Pencadlys Cyngor Gwynedd
Bydd dogfen ymgynghorol yn cael ei chyhoeddi ddiwedd yr wythnos

Mae'r cynghorydd sydd â chyfrifoldeb am addysg ar fwrdd Cyngor Gwynedd, Penri Jones, wedi ymddiswyddo.

Ond mae wedi gwrthod dweud pam nes iddo gael cyfle i esbonio wrth ei gyd aelodau yn gynta.

Mae Cyngor Gwynedd ar hyn o bryd yn paratoi i gyhoeddi dogfen ddadleuol ar ddyfodol ysgolion cynradd yn y sir.

Nos Sul roedd yna gyfarfod brys o Fforwm Llywodraethwyr Ysgolion Llŷn i drafod y ddogfen. Maen nhw wedi galw am esboniad pam bod Penri Jones wedi ymddiswyddo.

Mae'r fforwm hefyd yn honni y bydd y ddogfen fydd yn cael ei chyhoeddi ddiwedd yr wythnos hon yn cynnwys argymhelliad i gau tair ysgol yn Llŷn, ac un chwech arall i greu dwy ysgol ffederal.

Ail ymddiswyddiad

Mewn datblygiad arall, mae'r cynghorydd Seimon Glyn wedi ymddiswyddo o weithgor gafodd ei sefydlu gan Grŵp Plaid Cymru ar y cyngor i ystyried dyfodol ysgolion bach.

Plaid Cymru yw'r blaid fwyaf ar y Cyngor.

Mae Mr Glyn honni fod penderfyniadau am ddyfodol addysg gynradd y sir yn cael eu tynnu oddi ar gynghorwyr a bod swyddogion ac uwch gynghorwyr yn gwneud y penderfyniadau.

Dywedodd y cynghorydd Richard Parry Hughes arweinydd y cyngor mai dogfen ymgynghorol fydd yn cael ei chyhoeddi ddiwedd yr wythnos ac y bydd yn sail dros drafodaethau pellach.

Mae'r cyngor wedi dweud yn gyson nad yw'n bosib parhau â'r drefn bresennol am fod nifer y disgyblion yn dal i ostwng.


HEFYD
Cyfarfod: Diwedd disymwth
22 Maw 07 |  Newyddion
'Na' i gynllun ad-drefnu addysg
27 Hyd 06 |  Newyddion
Addysg: 'Poeni am ymgynghori'
08 Mai 06 |  Newyddion
Ysgolion bach: 'Y ffordd ymlaen'
07 Gorff 06 |  Newyddion

CYSYLLTIADAU RHYNGRWYD:
Dyw'r BBC ddim yn gyfrifol am gynnwys safleoedd rhyngrwyd allanol


Gwasanaethau ebost | ticer newyddion | Amodau Defnyddio | Preifatrwydd a Chwcis


Yn ôl i'r brig ^^