BBC Home
Explore the BBC
Chwiliwch yn Gymraeg
---------------
---------------
---------------
BBC Vocab
OFF / I FFWRDD
» Turn ON
Troi YMLAEN
» What is VOCAB? Beth yw GEIRFA?
SAFLEOEDD
ERAILL BBC
---------------
NEWYDDION
MEWN IEITHOEDD ERAILL
Arabic
Espanol
Russian
Chinese
Diweddarwyd: Dydd Iau, 11 Hydref 2007, 11:44 GMT 12:44 UK
Safle Glyndwr: Cynllun 2.7m
Canolfan Owain Glyndwr (diolch i Gyngor Tref Machynlleth)
Canolfan: Fe fydd adran addysg ar gyfer disgyblion a myfyrwyr
Cyhoeddwyd cynlluniau i adnewyddu canolfan ymwelwyr lle oedd sn bod Glyndwr wedi sefydlu ei Senedd 600 mlynedd yn l.

Mae'r grŵp tu l i'r cynllun 2.7m ym Machynlleth am wneud cais am arian loteri.

Yn y ganolfan mae hanes Gwrthryfel Glyndwr o 1400 ymlaen.

Mae'r cynlluniau'n cynnwys adeilad newydd ac adnewyddu'r Senedd-dy, adeilad Graddfa Un.

Dywedodd Henry Evans, cadeirydd y ganolfan: "Cafodd adeilad ei godi tua 1460 ond rydan ni'n deall ei fod ar safle hen Senedd Glyndwr.

'Moderneiddio'

"Cafodd y ganolfan ei chodi yn 1981 ond ers 1996 rydan ni wedi teimlo bod angen moderneiddio.

"Mi rydan ni wedi bod yn paratoi'r cynlluniau ers hynny."

Dywedodd y byddai angen arian cyfatebol.

"Gallai hyn ddod i'r fei mewn ychydig o flynyddoedd."

Mae Maer Machynlleth Bob Dunn wedi dweud bod cyngor y dre o blaid y cynllun.

"Mi fydd yn gynllun tymor-hir ond yn 'goron' ar atyniadau eraill yn y dre."

Fe fyddai'r ganolfan ar ei newydd wedd yn cynnwys adran addysg ar gyfer disgyblion a myfyrwyr.




HEFYD
Dadorchuddio cerflun Glyndwr
13 Medi 07 |  Newyddion
Glyndwr: Tynnu cerflun i lawr
15 Chwef 07 |  Newyddion
Glyndwr: Colli brwydr
27 Meh 06 |  Newyddion
'Angen rhoi llythyr Glyndwr yn l'
01 Ebr 06 |  Newyddion


Gwasanaethau ebost | ticer newyddion | Amodau Defnyddio | Preifatrwydd a Chwcis


Yn ôl i'r brig ^^