Yr Ysgwrn oedd cartref Hedd Wyn ac fe gafodd ei ddefnyddio ar gyfer y ffilm
|
Mae rhai'n honni bod gan aelodau corff ffilm BAFTA "ragfarn" yn erbyn ffilmiau Cymraeg a Gaeleg o Gymru a'r Alban.
Does dim un ffilm Gymraeg na Gaeleg wedi ei henwebu ar gyfer adran ffilm iaith dramor ar gyfer seremoni gwobrwyon yr Oscars y flwyddyn nesaf.
Mae'r cynhyrchydd ffilm Chris Young wedi ymddiswyddo o BAFTA am na chafodd ei ffilm Aeleg Seachd (y gair Gaeleg am saith) ei henwebu ar gyfer yr Oscars.
Yn ôl sylwebydd y celfyddydau Jon Gower: "Dwi'n credu bod rhagfarn, nid yn unig gan BAFTA, ond gan Lundain yn gyffredinol.
"Mae 'na olwg fetropolitan ar bethau nid yn unig o ran ffilmiau ond o ran y celfyddydau yn gyffredinol.
"Roedd cyfnod ar ddechrau'r 1990au pan oedd ffilmiau Cymraeg yn gwneud yn dda, fel Hedd Wyn a Gadael Lenin."
'Gwarthus'
"Mae'n benderfyniad gwarthus a phlwyfol. Mae Bafta yn ceisio lleihau'r cyfle i bobl weld amrywiaeth eang o ffilmiau", medd Mr Young.
Yn y ffilm Seachd mae bywyd bachgen ifanc Angus, sy'n siarad Gaeleg, yn cael ei ddryllio wedi marwolaeth ei rieni fu farw wrth geisio achub dringwr.
Cafodd Seachd ei ffilmio yn haf 2006
|
Mae Angus, ei frawd a'i chwaer, yn byw gyda'u mam-gu a'u tad-cu a'r plant yn cael hanes yr Ynysoedd a'r Ucheldiroedd ers cyfnod y Llychlynwyr.
Dywedodd Mr Young, sy'n siarad Gaeleg ac yn byw ar yr Ynys Hir lle cafodd Seachd ei ffilmio, mai Prydain oedd yr unig un yn Ewrop nad oedd wedi enwebu ffilm yn yr adran ffilm iaith dramor.
'Perthynas wael'
Ychwanegodd Mr Gower: "Dydyn ni ddim yn gwneud cymaint o ffilmiau uchelgeisiol yn y Gymraeg y dyddiau 'ma.
"Efallai bod BAFTA yn teimlo fod y ffilmiau Cymraeg sydd ar gael ar hyn o bryd ddim yn ddigon da.
"Mae'n rhyfeddol nad yw'r ffilm Aeleg wedi ei henwebu gan fod y ffilm wedi ennill cymaint o wobrau hyd yma.
"O ystyried hynny, fe ddylai BAFTA gymeryd sylw o lwyddiant y ffilm er efallai nad ydyn nhw yn ei hoffi hi."
Dywedodd Richard Staniforth, cyn-gadeirydd BAFTA yng Nghymru a chynhyrchydd y ffilm Gymraeg Calon Gaeth, na chafodd ei henwebu wrth bapur newydd y Guardian: "Mae'r berthynas rhwng gwneuthurwyr ffilmiau yr ieithoedd Celtaidd a Llundain yn eitha gwael."
Mae BAFTA wedi dweud eu bod yn enwebu ffilm os yw'n "arbennig" a bod yr Academy of Motion Picture Arts and Sciences yn America'n cytuno.
Roedd bwrdd ymddiriedolwyr BAFTA wedi adolygu'r penderfyniadau, meddai.