BBC Home
Explore the BBC
Chwiliwch yn Gymraeg
---------------
---------------
---------------
BBC Vocab
OFF / I FFWRDD
» Turn ON
Troi YMLAEN
» What is VOCAB? Beth yw GEIRFA?
SAFLEOEDD
ERAILL BBC
---------------
NEWYDDION
MEWN IEITHOEDD ERAILL
Arabic
Espanol
Russian
Chinese
Diweddarwyd: Dydd Llun, 1 Hydref 2007, 13:01 GMT 14:01 UK
Ffatri gaws: Colli 16 o swyddi?
Fferm laeth (generic)
Fis Mawrth cafodd y ffatri ei phrynu a diogelu 130 o swyddi

Fe allai 16 o swyddi ddiflannu mewn ffatri gaws yng Nghastell Newydd Emlyn oedd yn arfer cael ei rhedeg gan gwmni Dansco.

Mae'r perchnogion newydd, Saputo, yn ymgynghori am ddyddiau oherwydd nad oes digon o laeth i'w brosesu.

Dywed y cwmni y byddan nhw'n penderfynu'n derfynol cyn diwedd yr wythnos a bod digon o laeth i'w brosesu am bum diwrnod yn lle saith.

Mae undebau yn dweud eu bod wedi rhybuddio am brinder llaeth.

Dywedodd Eifion Hughes o Undeb Amaethwyr Cymru: "'Dan ni wedi rhybuddio ers blynyddoedd y byddai prinder llaeth am fod ffermwyr wedi bod yn cynhyrchu ar golled.

"Yng Nghymru mae 80% o laeth yn mynd i'r farchnad gaws felly 'dan ni'n ddibynnol ar y diwydiant.

"Deg mlynedd nl roedd ffermwyr yn cael 26c y litr, ac erbyn hyn 'dan ni'n cael 20c y litr, a hynny ar l codiad diweddar.

1000%

"Ond, yn y cyfamser, mae costau bwyd a thanwydd wedi codi'n fawr."

Ychwanegodd fod elw'r archfarchnadoedd ar litr o laeth wedi codi 1000% dros y 10 mlynedd diwethaf.

Dywedodd Dai Davies, Llywydd NFU Cymru: "Mae hyn yn bryder mawr, yn enwedig gan fod y cwmni dim ond wedi prynu'r ffatri'n ddiweddar.

"Os nad yw ffermwyr yn cael pris rhesymol am eu llaeth, dyma fydd yn digwydd. "

Ym mis Mawrth cafodd y ffatri ei phrynu a 130 o swyddi eu diogelu.

Cyn i'r ffatri newid dwylo roedd Dansco wedi bod o dan bwysau oherwydd anghydfod chyflenwyr llaeth.

Roedd y cyflenwyr yn anfodlon ar daliadau hwyr y cwmni a rhai ffermwyr wedi penderfynu peidio chyflenwi llaeth.




HEFYD
Ffatri gaws: Achub 130 o swyddi
23 Maw 07 |  Newyddion
Ffatri gaws: Cyfarfodydd
07 Maw 07 |  Newyddion
Ffatri gaws: Dal i gyflenwi
13 Chwef 07 |  Newyddion
Perchennog ffatri: 250m o dwyll
07 Rhag 06 |  Newyddion
Taliadau'n suro ffermwyr
26 Hyd 06 |  Newyddion
Ffatri gaws: Poeni am daliadau
25 Medi 06 |  Newyddion

CYSYLLTIADAU RHYNGRWYD:
Dyw'r BBC ddim yn gyfrifol am gynnwys safleoedd rhyngrwyd allanol


Gwasanaethau ebost | ticer newyddion | Amodau Defnyddio | Preifatrwydd a Chwcis


Yn ôl i'r brig ^^