BBC Home
Explore the BBC
Chwiliwch yn Gymraeg
---------------
---------------
---------------
BBC Vocab
OFF / I FFWRDD
» Turn ON
Troi YMLAEN
» What is VOCAB? Beth yw GEIRFA?
SAFLEOEDD
ERAILL BBC
---------------
NEWYDDION
MEWN IEITHOEDD ERAILL
Arabic
Espanol
Russian
Chinese
Diweddarwyd: Dydd Gwener, 28 Medi 2007, 17:03 GMT 18:03 UK
Gwyddoniadur: Deufis o oedi
Gwyddoniadur Cymru Yr Academi Gymreig
Mae pedwar academydd wedi arwain y tm ymchwil

Bydd gwyddoniadur Cymru yn cael ei gyhoeddi ar Ionawr 31, 2008 yn lle'r dyddiad gwreiddiol, Tachwedd 14, 2007.

Dywedodd y cyhoeddwyr mai "problemau anrhagweladwy yng nghamau olaf y gwaith o gynhyrchu'r llyfr" oedd y rheswm am yr oedi.

Mae'r gyfrol wedi cymryd dros 10 mlynedd o ymchwil, ysgrifennu a golygu.

Dywedodd Peter Finch, prif weithredwr yr Academi: "Tra bod yr oedi yn anffodus ac yn siom i bawb sydd wedi bod ynghlwm wrth y prosiect, rydyn ni'n gobeithio y bydd pobl yn deall nad ar chwarae bach y mae cyhoeddi llyfr fel hwn.

'Safonau uchaf'

"Ar l 10 mlynedd o waith ysgrifennu, ymchwilio a golygu manwl, mae'n hollbwysig fod digon o amser yn cael ei neilltuo i sicrhau fod y ddwy gyfrol mor fanwl gywir ag sy'n bosib i gyrraedd y safonau golygyddol uchaf.

"Wedi'r cyfan, rhaid i'r gyfrol sefyll am genedlaethau i ddod."

Dywedodd ei fod yn ymddiheuro i'r holl bobl oedd wedi archebu copau o flaen llaw neu a oedd yn bwriadu anfon copi fel anrheg Nadolig.

Estyniad

Mae Gwasg Prifysgol Cymru wedi cyhoeddi bod estyniad ar gyfer archebu o flaen llaw am 50 ynghyd phecynnu a phostio'n rhad ac am ddim (o fewn y Deyrnas Unedig), a hynny hyd at Ragfyr 31 2007.

Dywedodd y wasg fod 4,500 o gopau wedi eu harchebu.

Mae'r tm ymchwil yn cynnwys Dr John Davies, Menna Baines, Nigel Jenkins a Peredur Lynch.




HEFYD
'Llyfr pwysicaf ers Y Beibl'
13 Gorff 07 |  Newyddion

CYSYLLTIADAU RHYNGRWYD:
Dyw'r BBC ddim yn gyfrifol am gynnwys safleoedd rhyngrwyd allanol


Gwasanaethau ebost | ticer newyddion | Amodau Defnyddio | Preifatrwydd a Chwcis


Yn ôl i'r brig ^^