Fe ddaw'r ymgynghoriad i ben ddiwedd y flwyddyn
|
Mae'r ymgynghoriad cyhoeddus mwyaf o'i fath yn cael ei lansio i geisio gwella safon y bwyd yng Nghymru.
Yn ôl y ffigyrau diweddaraf, mae 56% o oedolion Cymru yn cario gormod o bwysau, ac ers tair blynedd mae'r ystadegau wedi codi 3% yn flynyddol.
Nod Llywodraeth y Cynulliad yw y bydd yr ymgynghoriad yn golygu gwell hyfforddiant i weithwyr y diwydiant, mwy o fwydydd lleol mewn ysgolion ac ysbytai a mwy o grwpiau cydweithredol sy'n defnyddio llysiau a ffrwythau lleol.
Mae'r Prif Swyddog Meddygol Dr Tony Jewell yn lansio'r ymgynghoriad ddydd Mawrth ar safle cwmni bwyd cydweithredol yng Nghaerdydd cyn mynd ar daith drwy Gymru.
Bydd yr ymgynghoriad yn ystyried:
- A ddylai cynlluniau bwyta'n iach fod ar gael drwy Gymru
- A ddylai mwy o ddewis bwyd iach fod ar gael mewn siopau lleol, caffis ac yn y gwaith
- Sut y gallai newidiadau yn sut y mae bwyd yn cael ei gynhyrchu ostwng ôl-troed carbon Cymru; a
- Sut y gallai mwy o fwyd lleol gael ei ddefnyddio mewn ysbytai, ysgolion a chartrefi gofal
'Ansawdd ein hiechyd'
Dywedodd Dr Jewell: "Does dim amheuaeth bod y bwyd yr ydyn ni yn ei fwyta yn effeithio'n uniongyrchol ar ansawdd ein hiechyd.
"Mae hwn yn bwnc na allwn ni ei anwybyddu, yn enwedig os bydd problemau fel gordewdra yn troi'n fwy o her yn y dyfodol.
"Rhaid dweud bod bwyta o leiaf bum ffrwyth neu lysieuyn y dydd yn gallu lleihau'r posibilrwydd o ddatblygu afiechydon megis clefyd y galon, strôc a chanser ...
"Ar gyfartaledd, dyw oedolion yng Nghymru ddim ond yn bwyta tua thri ffrwyth neu lysieuyn y diwrnod ac mae hyn yn llai ymhlith grwpiau llai breintiedig."
Mae'r ymgynghoriad yn sgîl cynnig ar Hydref 17, 2006 yn galw ar Lywodraeth y Cynulliad i ddatblygu strategaeth i wella ansawdd y bwyd sy'n cael ei fwyta yng Nghymru.