Natur gymhleth y ffyrdd sy'n gyfrifol am y polisi, medd y cyngor
|
Mae ffrae'n corddi am fod Cyngor Abertawe wedi gosod arwyddion uniaith Saesneg ar gylchdro yn lle rhai dwyieithog "am resymau iechyd a diogelwch".
Ar ôl asesiad iechyd a diogelwch ar gylchdro Ynysforgan ger traffordd yr M4 penderfynodd y cyngor y gallai arwyddion dwyieithog "arwain at gymhlethdod a pherygl ychwanegol i yrwyr".
Ond dywedodd David Gwyn John, cadeirydd Cymdeithas Gymraeg Treforys, sy'n byw ger Ynysforgan: "Dyw hyn ddim yn dderbyniol o gwbl.
"Beth yw'r gwahaniaeth rhwng iechyd a diogelwch ar ffyrdd yn Abertawe a'r ffyrdd yng ngweddill Cymru?
'Parch'
"Dyw Cyngor Abertawe ddim yn rhoi parch dyledus i'r iaith. Oes, mae ganddyn nhw bolisi iaith, ond dydyn nhw ddim yn defnyddio'r polisi o'r galon.
"Mae 'na broblem wrth y gyffordd hon achos wnaethon nhw ddim gwario'n ddoeth wrth ei gynllunio.
"Ac mae traffig yn dod yn rhy gyflym wrth ymuno â'r cylchdro.
"Dyna'r broblem, nid yr arwyddion ffyrdd. Dylai fod twnnel yn mynd o dan y cylchdro."
Dywedodd llefarydd ar ran Cyngor Abertawe: "Mae gan Gyngor Abertawe Gynllun Iaith Gymraeg sy'n hybu dwyieithrwydd ond mae 'na rai achlysuron lle mae pryderon iechyd a diogelwch yn bwysicach na gofynion y cynllun.
"Yn yr enghraifft hon roedd ein swyddogion priffyrdd wedi cwblhau asesiad iechyd a diogelwch ar y safle ac yn bryderus fod marciau ffordd dwyieithog ac arwyddion dwyieithog, o gofio natur gymhleth y ffyrdd beth bynnag, yn gallu arwain at fwy o gymhlethdod i yrwyr ac y gallai ychwanegu at y perygl."
Gresynu
Mae Cymdeithas yr Iaith Gymraeg wedi gresynu at y penderfyniad ac wedi anfon llythyr at brif weithredwr Cyngor Abertawe.
Yn ôl y mudiad, "fe wnaeth Pwyllgor Roderick Bowen ar Arwyddion Dwyieithog (1971) astudiaeth fanwl o'r pwnc hwn a dod i'r casgliad nad oedd arwyddion dwyieithog yn beryglus.
"Mae arwyddion dwyieithog neu aml-ieithog i'w cael ledled Ewrop mewn gwledydd lle mae mwy nag un iaith swyddogol, er enghraifft Sweden, Gwlad Belg, Sbaen, Y Swistir.
Dywedodd Dafydd Morgan Lewis ar ran y Gymdeithas: "Os bydd y cyngor yn bwrw ymlaen â'r penderfyniad gwallgo hwn fe fydd yn rhaid i'r Gymdeithas ailystyried cydio yn y brwsh paent a pheintio'r byd yn wyrdd unwaith eto.
"Mae'r holl helynt yn profi fod gwir angen Deddf Iaith Newydd fel nad yw nonsens fel hyn yn codi yn y dyfodol."