Mae'r cwmni wedi tyfu ac yn cyflogi 20 o bobl erbyn hyn
|
Roedd 'na gryn ddathlu yng Ngheredigion ddydd Sadwrn wrth i wasg Y Lolfa gyrraedd ei phen-blwydd yn 40 oed.
Cafwyd parti mawreddog i ddathlu 40 mlynedd ers sefydlu'r cwmni nos Sadwrn ac mae cyfrolau newydd hefyd wedi cael eu cyhoeddi.
Mae'r cwmni ar ochr y brif ffordd rhwng Aberystwyth a Machynlleth yng nghanol Talybont.
Yn 1965 cafodd y rhifyn cyntaf o gylchgrawn Lol ei gyhoeddi roddodd gychwyn i'r wasg.
Erbyn 1967 fe sefydlwyd y cwmni ac argraffdy'r Lolfa gan ŵr a gwraig, Robat ac Enid Gruffudd.
Cychwynnodd y cwmni yn yr hen Emporiwm yn y pentref cyn symud i hen orsaf heddlu'r pentref ddechrau'r 1980au.
Cadw'r enw
Erbyn hyn mae'r cwmni yn cyflogi 20 o bobl yn y pentref yng Ngheredigion.
"Mae'r bai ar ffrind coleg i mi, Penri Jones," eglurodd Robat Gruffudd.
Mae gan Y Lolfa le amlwg iawn i'w chwarae ym mhentre Talybont
|
"Roeddem yn rhannu tŷ ym Mangor a fo oedd y prif un am sefydlu Lol fel adwaith yn erbyn cylchgrawn rag y coleg a oedd yn 'llawer rhy barchus' ac eisiau gwneud rhywbeth poblogaidd i bobl ifanc.
"Wnaethon ni feddwl bod angen enw ar gyhoeddwr y cylchgrawn a meddwl am Y Lolfa - enw oedd wedi cael ei fathu gan Islwyn Ffowc Elis yn ei nofelau.
"Dwy flynedd wedyn fe wnes i ddechrau cwmni argraffu ac roedd rhaid cadw'r enw, Y Lolfa."
Cyfaddefodd bod y cwmni efallai yn herio'r sefydliad.
"Ond rhaid cofio bod 'na genhedlaeth o bobl ifanc oedd yn codi yng Nghymru ac yn y colegau a oedd yn weithgar yn wleidyddol ac yn gofyn pan nad oedd pethau ar gael yn y Gymraeg," ychwanegodd.
"Mewn ffordd roeddwn i'n rhan o'r genhedlaeth yna ac yn darparu cynnyrch ar eu cyfer."
Ond dywedodd nad oedd yn difaru a fyddai o ddim yn newid dim petai'n gallu troi'r cloc.
Pontshân
Mae gan y wasg bolisi o gynhyrchu llyfrau gwreiddiol ac yn cefnogi awduron ac artistiaid lleol ac "economi cefn gwlad Cymru yn hytrach na rhoi arian ym mhocedi cwmnïau amlwladol".
Cyfrol gan Eirwyn Pontshân oedd y cyntaf i'w gyhoeddi gan Y Lolfa
|
Er y bu parti nos Sadwrn yn Aberystwyth gyda rhai o artistiaid Cymru mae'r wasg wedi cyhoeddi dau lyfr o hiwmor ysgafn er mwyn nodi'r penblwydd.
Mae un gan Dewi Pws a'r llall gan Pontshân.
Yn ôl y wasg mae'n gwbl addas mai ail-fyw hiwmor Pontshân fydd un o uchafbwyntiau'r noson nos Sadwrn a chyhoeddi'r gyfrol yma gan mai "Hyfryd Iawn" gan y diweddar Eirwyn Pontshân oedd y gyfrol gyntaf i'r Lolfa ei chyhoeddi.
"Roedd Pontshân yn cynrychioli hwyl a Chymreictod ac annibyniaeth safbwynt...fe oedd y Barnwr pan agorwyd safle newydd Y Lolfa yn hen swyddfa'r Heddlu yn Nhalybont, ac fe oedd y comedïwr ar noson dathlu pen blwydd y cwmni'n 25 oed," meddai Robat Gruffudd.
"Yn naturiol felly, ef yw un o'r cymeriadau amlycaf ar furlun Y Lolfa yng nghanol Talybont heddi."
Mae'r wasg yn cynnig gwasanaeth argraffu i gwsmeriaid ledled Cymru a thu hwnt yn ogystal â chyhoeddi llyfrau Cymraeg a Saesneg.
Dros y flwyddyn nesaf bydd y cwmni yn buddsoddi £750,000 ar offer a swyddfeydd newydd.
"Rydym wastad wedi cofleidio technolegau newydd fel modd o wella safon ac effeithlonrwydd," meddai Garmon Gruffudd, Rheolwr Gyfarwyddwr y cwmni.
"Bwriad y gwariant yw sicrhau y bydd gennym yr offer mwya soffistigedig bosib a digon o le i ehangu, fel y byddwn ar flaen y gad wrth wynebu'r her fydd gan y dyfodol i'w gynnig."