BBC Home
Explore the BBC
Chwiliwch yn Gymraeg
---------------
---------------
---------------
BBC Vocab
OFF / I FFWRDD
» Turn ON
Troi YMLAEN
» What is VOCAB? Beth yw GEIRFA?
SAFLEOEDD
ERAILL BBC
---------------
NEWYDDION
MEWN IEITHOEDD ERAILL
Arabic
Espanol
Russian
Chinese
Diweddarwyd: Dydd Mercher, 19 Medi 2007, 06:47 GMT 07:47 UK
Pensiynwr yn rhwyfo i Lundain
Nigel Worth ar fwrdd y  Wagtail
Mae Mr Worth wedi bod yn cysgu ambell i noson ar y cwch
Mae pensiynwr 70 oed o sir Ddinbych yn rhwyfo o ogledd Cymru i Lundain mewn cwch y mae wedi ei adeiladu er mwyn codi arian at achosion da.

Fe ddechreuodd Nigel Worth ei daith ddydd Sadwrn o Lanelwy yn ei gwch Wagtail.

Mae'n gobeithio gorffen y daith 311 milltir o hyd i Tower Bridge mewn mis wrth rwyfo wyth milltir bob dydd.

Mae Nigel o Ruthun yn gobeithio codi 5,000 ar gyfer elusen Swazaid.

Nod yr elusen, gafodd ei sefydlu gan Mr Worth bum mlynedd yn l, yw codi arian ar gyfer plant Swaziland sy wedi colli eu rhieni oherwydd AIDS.

Mae'n teithio mewn cwch 15 troedfedd o hyd gafodd ei adeiladu'n arbennig ar gyfer y daith.

Fe ddechreuodd y dyn phrofiad helaeth o adeiladu cychod. rwyfo yn ei arddegau.

Tower Bridge
Mae Mr Worth yn gobeithio cyrraedd Tower Bridge ar Hydref 11

"Roedd o'n weddol hawdd i'w adeiladu a gan ei fod o'n pwyso 75 pwys mae'n gymharol hawdd i'w gario."

Os na fydd llety'n cael ei gynnig iddo fe fydd yn cysgu ar y cwch.

Mae wedi teithio i lawr afon Clwyd a mynd o'r Rhyl ar hyd yr arfordir i Lannau Dyfrdwy.

Wedyn fe rwyfodd ar hyd y Shropshire Union Canal i gyfeirad Market Drayton yn Sir Amwythig.

Ar hyn o bryd mae'n gobeithio cyrraedd Wolverhampton a Birmingham cyn teithio ar hyd yr Oxford Union Canal ac ymlaen i afon Tafwys.

Y nod yw gorffen ei daith gyda'i ddaeargi Taz ar Hydref 11.





Gwasanaethau ebost | ticer newyddion | Amodau Defnyddio | Preifatrwydd a Chwcis


Yn ôl i'r brig ^^