Mae technoleg wi-fi yn defnyddio meicro donfeddau
|
Mae cyngor wedi galw am fwy o ganllawiau oherwydd y defnydd o fandeang diwifr mewn ysgolion.
Wi-fi yw'r dechnoleg ddiweddara o gysylltu'r cyfrifiadur â'r we heb ddefnyddio gwifrau ond mae rhai'n amau a ddylai hi gael ei defnyddio mewn ysgolion.
Cyngor Sir Caerfyrddin yw'r cynta yng Nghymru i alw am ganllawiau ar gyfer ysgolion.
Mae rhai gwyddonwyr a rhieni yn amau pa mor ddiogel yw'r system ddiwifr am ei bod yn gollwng ymbelydredd, medden nhw, fel mastiau ffôn.
Penderfynodd y cyngor sir ofyn i fudiadau eu helpu i lunio canllawiau ar sut i ddefnyddio'r dechnoleg mewn ysgolion.
Dim tystiolaeth
Yn ôl yr Asiantaeth Diogelu Iechyd, does dim tystiolaeth i awgrymu bod y dechnoleg yn effeithio ar iechyd.
Ond dywedodd llefarydd y byddai cynnal arolwg pellach yn synhwyrol.
Mae Ysgol Gyfun Pantycelyn yn Llanymddyfri wedi ymateb i bryderon rieni a pheidio â defnyddio'r dechnoleg.
Y gynathrawes Judith Davies, sydd â merch yn yr ysgol, sy wedi bod yn ymgyrchu o blaid cyfyngu ar y defnydd o wi-fi.
"Roeddwn wedi gobeithio y byddai moratoriwm ond rwy'n falch y bydd côd ymddygiad."
Dywedodd aelod gweithredol dros addysg y sir Ieuan Jones: "Fe fyddwn ni'n cadw llygaid barcud ar y sefyllfa.
"Gallai peryglon cysylltiadau wi-fi fod yn debyg i'r defnydd o ffonau symudol."