BBC Home
Explore the BBC
Chwiliwch yn Gymraeg
---------------
---------------
---------------
BBC Vocab
OFF / I FFWRDD
» Turn ON
Troi YMLAEN
» What is VOCAB? Beth yw GEIRFA?
SAFLEOEDD
ERAILL BBC
---------------
NEWYDDION
MEWN IEITHOEDD ERAILL
Arabic
Espanol
Russian
Chinese
Diweddarwyd: Dydd Mercher, 12 Medi 2007, 11:34 GMT 12:34 UK
Dathlu cyfraniad sinema Cymru
Richard Burton yn The Last Days of Dolwyn (Llun: British Film Institute)
Richard Burton yn The Last Days of Dolwyn yn 1949

Dyddiau cynnar a hanes y sinema yng Nghymru fydd i'w gweld mewn gŵyl yn Aberystwyth.

Caiff 25 o ffilmiau eu dangos yn yr ŷyl ym mis Hydref gan gynnwys rhai o "ffilmiau mwya arwyddocaol Prydain" yn hanner cyntaf yr 20fed ganrif.

Fe fydd fersiwn sydd newydd gael ei hadfer o ffilm How Green Was My Valley gyda Richard Burton a The Life Story of David Lloyd George i'w gweld yn yr wyl fydd yn cael ei gynnal yn y Llyfrgell Genedlaethol fel rhan o ddathliadau'r sefydliad yn 100 oed eleni.

Fe fydd y ffilm Gymraeg gyntaf, Y Chwarelwr, hefyd yn cael ei dangos.

Dyma'r tro cyntaf i'r fersiwn newydd o'r ffilm yma gael ei dangos mewn sinema.

Hanesyddol

Roedd rhan olaf y ffilm ar goll cyn i gwmni teledu fynd ati i ffilmio'r diwedd.

Yn ogystal a dangos y ffilmiau fe fydd 'na gyfle i drafod y gwaith, clywed perfformiadau cerddorol byw a sawl digwyddiad arall.

"Mae Fflics yn gyfle gwych i ddathlu cyfraniad Cymru i ddyddiau cynnar sinema, ac i weld y ffilmiau ar y sgrin fawr; eu priod le," meddai Andrew Green, Prif Lyfrgellydd, Llyfrgell Genedlaethol Cymru.

Blaenau Ffestiniog
Blaenau Ffestiniog oedd lleoliad Y Chwarelwr

"Rydym yn hyderus y bydd yr Ŵyl yn apelio at ystod eang o bobl o ddilynwyr ffilm brwd i'r rhai sy'n mwynhau ffilmiau na welir yn aml ar y sgrîn fawr, i'r rhai sy'n awyddus i weld ochr hanesyddol ar Gymru yn hanner cyntar ganrif."

Dywedodd yr arbenigwr ffilm, Dave Berry, bod rhai o ffilmiau "mwya arwyddocaol Prydain" yn hanner cyntaf yr 20fed ganrif i'w gweld yn yr ŵyl.

"Roedd The Life of David Lloyd George yn epic, yn ffilm dawel a fu ar goll am 76 mlynedd cyn cael ei ganfod gan y llyrgell yn Aberystwyth.

"Mae dros ddwy awr a hanner, efo 10,000 o actorion ychwanegol mewn un olygfa a dros 2,000 mewn un arall."

Cafodd y ffilm ei gwneud yn 1918 ond roedd 'na rhwy ddirgelwch o'i hamgylch yn ôl Mr Berry.

Eglurodd bod 'na Etholiad Cyffredinol ar y gorwel a bod Lloyd George wedi cael traed oer a dyna pam na chafodd ei dangos.

Ymhlith ffilmiau eraill fydd i'w gweld y mae Proud Valley; Silent Village; The Corn is Green; Jerry The Tyke; Blue Scar; Valley of Song; The Citadel a The Last Days of Dolwyn.




HEFYD
Ffilm: Darnau'n disgyn i'w lle
04 Rhag 06 |  Newyddion
Hen ffilm ar newydd wedd
09 Hyd 06 |  Newyddion
Ffilm: Chwilio am rîl ola
29 Awst 05 |  Newyddion
Y 'bachgen breuddwydiol'
11 Medi 05 |  Newyddion
Ffilmiau enwocaf Cymru ar daith
27 Ion 03 |  Newyddion

CYSYLLTIADAU RHYNGRWYD:
Dyw'r BBC ddim yn gyfrifol am gynnwys safleoedd rhyngrwyd allanol


Gwasanaethau ebost | ticer newyddion | Amodau Defnyddio | Preifatrwydd a Chwcis


Yn ôl i'r brig ^^