John Rowlands sy'n cynrychioli Cymru ar yr orymdaith
|
Cyrhaeddodd taith Torri Carbon Cymorth Cristnogol Gaerdydd ddydd Sadwrn.
Mae'r daith bedwar mis o amgylch gwledydd Prydain yn rhan o ymgyrch Cymorth Cristnogol i ledu'r gair am effeithiau newid hinsawdd ar yr amgylchedd.
Cynrychiolydd Cymru ar y daith yw John Rowlands.
Mae'n gwybod am effeithiau newid hinsawdd ar y byd gan ei fod yn rheolwr cyfathrebu Asiantaeth yr Amgylchedd Cymru.
 |
Mae pob un ohonon ni'n chwarae rhan, ac mae angen i ni weithredu nawr i leihau ein heffaith ar y blaned
|
Yng Nghaerdydd roedd rali yng Nghae Coopers ger y castell am 3.30pm.
Mae 20 o orymdeithwyr yn rhan o'r daith adawodd Belfast ym mis Gorffennaf.
Ond mae mwy yn ymuno gyda'r cerddwyr yn ystod y daith wrth deithio drwy'r Alban a Lloegr.
Fe ddaw'r orymdaith i ben yn Llundain ar Hydref 2.
Mae Mr Rowlands yn cyfuno gwyliau blynyddol a gwyliau di-dâl wrth wneud y daith.
'Bygythiad byd-eang'
Mae Asiantaeth yr Amgylchedd Cymru yn gobeithio y bydd neges y rali yn codi ymwybyddiaeth am y "bygythiad byd-eang i'n hamgylchedd".
"Mae 'na fygythiad yn cael ei achosi gan CO2 sy'n cael ei gynhyrchu wrth wneud trydan, gyrru ceir a theithio mewn awyrennau," meddai llefarydd.
Roedd y rhai oedd yn ymuno gyda'r orymdaith drwy Gaerdydd ddydd Sadwrn yn cynnwys yr actores o Hollywood, Greta Scacchi.
Ac roedd y cyflwynydd Bethan Elfyn o BBC Radio 1, y gantores a'r awdur Gwyneth Glyn a Maggot o'r band Goldie Lookin' Chain yno.
Neges Cymorth Cristnogol yw ei bod yn "hen bryd gweithredu".
"Nid yw siarad am newid yn yr hinsawdd a'i heffaith yn ddigon," meddai Mr Rowlands.
"Mae newid yn yr hinsawdd eisoes yn digwydd ac mae angen cyhoeddi'r neges honno'n glir.
"Mae pob un ohonon ni'n chwarae rhan, ac mae angen i ni weithredu nawr i leihau ein heffaith ar y blaned."