Mwy o alw: Bwyd llai iach
|
Mae cyngor sir am atal plant rhag gadael yr ysgol yn yr awr ginio er mwyn eu hannog i fwyta'n iach.
Pryderu y mae Cyngor Sir Ddinbych bod llai o ddisgyblion sy'n bwyta cinio ysgol.
Mae ystadegau diweddaraf y cyngor yn dangos bod llai na hanner disgyblion ysgolion cynradd yn bwyta cinio ysgol tra oedd 55% yn 2004-5.
Yn ysgolion uwchradd y sir yn yr un cyfnod, cwympodd cyfanswm ciniawau ysgol o fwy na 50,000 i 573,000.
Mae'r cyngor wedi llunio canllawiau drafft "i annog athrawon i gadw plant ar dir yr ysgol yn ystod amser cinio".
Dywedodd y cogydd teledu Jamie Oliver, sydd wedi ymgyrchu dros fwyd iach yn ysgolion: "Bydd yn ddiddorol i wybod canlyniadau'r syniad yn Sir Ddinbych.
"Mae atal plant rhag gadael yr ysgol yn ystod yr awr ginio yn ateb posibl ond ni fyddai'n gweithio ym mhob cyngor nac ym mhob ysgol.
"Y peth pwysig yw bod plant yn cael cynnig dewis da o fwyd da yn yr ysgol."
'Eitha llwyddiannus'
Dywedodd Steve Price o'r cyngor fod y polisi atal plant rhag gadael yr ysgol yn ystod yr awr ginio eisoes ar waith mewn rhai ysgolion ac wedi "bod yn yn eitha llwyddiannus".
Roedd mwy na 4,000 o holiaduron wedi cael eu dosbarthu i ddisgyblion.
"Maen nhw'n dal i hoffi sglodion a physgod ond os nad yw hynny ar gael maen nhw'n cyfarwyddo'n gyflym â'r dewisiadau ar y fwydlen bwyta'n iach."
Y llynedd cyhoeddodd y cyngor sir eu bod am roi £190,000 yn ychwanegol at eu gwasanaeth cinio ysgol.
Roedd ofnau y gallai'r gwasanaeth ddiflannu am fod mwy o ddisgyblion yn gwrthod bwyd mwy iach.