BBC Home
Explore the BBC
Chwiliwch yn Gymraeg
---------------
---------------
---------------
BBC Vocab
OFF / I FFWRDD
» Turn ON
Troi YMLAEN
» What is VOCAB? Beth yw GEIRFA?
SAFLEOEDD
ERAILL BBC
---------------
NEWYDDION
MEWN IEITHOEDD ERAILL
Arabic
Espanol
Russian
Chinese
Diweddarwyd: Dydd Iau, 6 Medi 2007, 12:56 GMT 13:56 UK
'Sioc fawr' i Brif Gwnstabl
Richard Brunstorm
Cafodd Richard Brunstrom ei saethu gan wn Taser

Cafodd Prif Gwnstabl Heddlu Gogledd Cymru ei saethu gan wn Taser.

Penderfynodd Richard Brunstrom, 53 oed, brofi effeithiau'r ergyd drydanol o 50,000 o foltiau.

Cafodd ei daro am lai na dwy eiliad.

Mae ffilm ar wefan yr heddlu yn ei ddangos yn rhegi pan gafodd ei saethu.

Dywedodd na fyddai unrhyw un nad oedd yn ufuddhau plismyn gynnau Taser "yn mwynhau'r effeithiau".

Mae Heddlu'r Gogledd am ddefnyddio'r gynnau mewn ardaloedd gwledig.

Yn ei ddyddiadur ar y we mae Mr Brunstrom yn dweud bod y defnydd o'r gwn ers 2003 wedi bod yn "llwyddiannus".

'Yn gywir'

"Rydyn ni'n barod i ddefnyddio hwn os oes angen," meddai.

"Mae'n iawn ac yn gywir bod pennaeth y llu yn profi hwn ei hun."

Yn y lluniau mae dau blisman yn helpu Mr Brunstrom wrth iddo gael ei saethu.

Mae'r Prif Gwnstabl yn cael ei saethu am 1.5 eiliad cyn dweud ei fod yn cael digon.

"Sut beth oedd o? Ddim yn bleserus," meddai wedyn.

"Doeddwn i ddim yn gallu symud, fe fyddwn i wedi syrthio oni bai fy mod yn cael fy nal gan fy nghydweithwyr.

"Dwi'n eich rhybuddio - os ydach chi'n wynebu swyddog efo gwn Taser, dilynwch y cyfarwyddiadau oherwydd wnewch chi ddim mwynhau'r canlyniadau."

Dywedodd bod cyfnod prawf defnyddio'r gynnau mewn ardaloedd gwledig wedi dechrau ddydd Sadwrn.

"Fe fyddwn ni'n cadw golwg ar y cynnydd yn ystod y flwyddyn nesaf."




HEFYD
Gynnau taser i luoedd Cymreig
01 Medi 07 |  Newyddion
Lladrad: AS o blaid gwn Taser
06 Meh 06 |  Newyddion
Llu arall i gyflwyno gynnau Taser
04 Tach 05 |  Newyddion
Heddlu Cymru'n cefnogi'r gwn Taser
22 Awst 05 |  Newyddion
Gwn trydan i heddlu'r gogledd
17 Ebr 03 |  Newyddion

CYSYLLTIADAU RHYNGRWYD:
Dyw'r BBC ddim yn gyfrifol am gynnwys safleoedd rhyngrwyd allanol


Gwasanaethau ebost | ticer newyddion | Amodau Defnyddio | Preifatrwydd a Chwcis


Yn ôl i'r brig ^^