BBC Home
Explore the BBC
Chwiliwch yn Gymraeg
---------------
---------------
---------------
BBC Vocab
OFF / I FFWRDD
» Turn ON
Troi YMLAEN
» What is VOCAB? Beth yw GEIRFA?
SAFLEOEDD
ERAILL BBC
---------------
NEWYDDION
MEWN IEITHOEDD ERAILL
Arabic
Espanol
Russian
Chinese
Diweddarwyd: Dydd Mercher, 5 Medi 2007, 06:22 GMT 07:22 UK
Cau ysgolion: 'Angen mesur'
Dosbarth o blant
Cau ysgolion yn arwain at 'ddiwedd cymunedau'

Mae ymgyrchwyr wedi croesawu bwriad yn Yr Alban i gyflwyno mesur fydd yn atal ysgolion bach rhag cael eu cau.

Dywedodd Murdo Fraser ASA, llefarydd y Ceidwadwyr ar addysg, y byddai'n cyflwyno mesur Seneddol.

Fe fyddai'r mesur, meddai, yn cynnwys rhagdybiaeth gyfreithiol yn erbyn cau ysgolion bach mewn ardaloedd gwledig.

Ers 2003 mae 60 o ysgolion cefn gwlad Yr Alban wedi cau neu wedi bod mewn perygl o gau.

Gyda'n gilydd fe allwn ni sicrhau bod ein cymunedau gwledig ni'n sefydlog unwaith eto
Sandy Longmuir, Rhwydwaith Ysgolion Cefn Gwlad Yr Alban

Dydd Mawrth roedd Aelod Seneddol Yr Alban yn trafod y mesur drafft ag ymgyrchwyr yn Arbirlot, Angus, cyn ei gyhoeddi.

"Mae'n hen bryd i ni weithredu er mwyn diogelu ein hysgolion gwledig.

"Yn rhy aml mae pentrefi wedi colli eu 'calonnau' am fod ysgolion yn cau.

"Mae teuluoedd wedi gadael y pentre yn diodde teithiau hir i ysgolion eraill.

Cronfa

"Dylen ni werthfawrogi ein cymunedau cefn gwlad."

Fe fydd y mesur yn cyfeirio at sefydlu cronfa allai helpu ysgolion sy'n wynebu problemau ariannol.

"Rydyn ni'n falch ein bod ni'n gallu cefnogi mesur Mr Fraser," meddai Sandy Longmuir o Rwydwaith Ysgolion Cefn Gwlad Yr Alban.

"Mae e am gydweithio â Llywodraeth Yr Alban ... gyda'n gilydd fe allwn ni sicrhau bod ein cymunedau gwledig ni'n sefydlog unwaith eto."




HEFYD
'Dim dewis ond cau rhai ysgolion'
22 Meh 07 |  Newyddion
Ysgolion bach: Ymgynghori
12 Meh 07 |  Newyddion

CYSYLLTIADAU RHYNGRWYD:
Dyw'r BBC ddim yn gyfrifol am gynnwys safleoedd rhyngrwyd allanol


Gwasanaethau ebost | ticer newyddion | Amodau Defnyddio | Preifatrwydd a Chwcis


Yn ôl i'r brig ^^