BBC Home
Explore the BBC
Chwiliwch yn Gymraeg
---------------
---------------
---------------
BBC Vocab
OFF / I FFWRDD
» Turn ON
Troi YMLAEN
» What is VOCAB? Beth yw GEIRFA?
SAFLEOEDD
ERAILL BBC
---------------
NEWYDDION
MEWN IEITHOEDD ERAILL
Arabic
Espanol
Russian
Chinese
Diweddarwyd: Dydd Iau, 30 Awst 2007, 10:04 GMT 11:04 UK
Gohirio trafod cynllun tai
Protest
Bu protest fore Iau tu allan i Neuadd y Sir
Mae pwyllgor cynllunio Cyngor Sir Gâr wedi gohirio penderfyniad ar gais dadleuol i godi 52 o dai ym Mhorthyrhyd yng Nghwm Gwendraeth.

Dywedodd swyddogion cynllunio fod "gwybodaeth newydd wedi dod i law oddi wrth Asiantaeth yr Amgylchedd".

Roedd y pwyllgor i fod i drafod y mater ddydd Iau. Ar hyn o bryd mae 138 o dai yn y pentre.

Daeth tua 40 i o'r pentrefwyr i Neuadd y Sir yng Nhaerfryddin i brotestio'n erbyn y cynllun.

Yn ôl y pentrefwyr, byddai'r datblygiad yn dyblu maint y pentre ac yn effeithio'n andwyol ar Gymreictod yr ardal.

Mae yna bryder bod y tir yn anaddas oherwydd y perygl o lifogydd.

Dywedodd y datblygwyr, Lovell, y byddai'r datblygiad yn cynnwys 12 o dai fforddiadwy.

Yn ôl arbenigwr ieithyddol y mae'r cyngor bro wedi ei gyflogi, fe allai canran y siaradwyr Cymraeg ostwng o 63% i 55% neu 50% oherwydd y datblygiad.

Yn gwadu

Mae Lovell yn gwadu y bydd y cynllun yn effeithio'n difrifol ar y nifer sy'n siarad Cymraeg ym Mhorthyrhyd.

Dywedodd pentrefwyr eu bod yn poeni am lifogydd ac y gallai'r datblygiad olygu mwy o bwysau ar y system garthffosiaeth.

Bydd swyddogion cynllunio yn awgrymu ddydd Mercher y dylai cynghorwyr ganiatáu'r datblygiad.

Mae'r swyddogion o blaid datblygiad graddol - 30 o dai yn cael eu codi nawr a 22 yn 2014.




HEFYD
'Dyblu' pentre'n creu pryder
02 Ebr 07 |  Newyddion
Anelu at godi 'tai fforddiadwy'
18 Ion 07 |  Newyddion
Gwrthod cynllun i godi tai
21 Tach 06 |  Newyddion

CYSYLLTIADAU RHYNGRWYD:
Dyw'r BBC ddim yn gyfrifol am gynnwys safleoedd rhyngrwyd allanol


Gwasanaethau ebost | ticer newyddion | Amodau Defnyddio | Preifatrwydd a Chwcis


Yn ôl i'r brig ^^