BBC Home
Explore the BBC
Chwiliwch yn Gymraeg
---------------
---------------
---------------
BBC Vocab
OFF / I FFWRDD
» Turn ON
Troi YMLAEN
» What is VOCAB? Beth yw GEIRFA?
SAFLEOEDD
ERAILL BBC
---------------
NEWYDDION
MEWN IEITHOEDD ERAILL
Arabic
Espanol
Russian
Chinese
Diweddarwyd: Dydd Mercher, 29 Awst 2007, 18:17 GMT 19:17 UK
O Bollywood i Ddolgellau
Mayur Verma
Mae Mayur Verma yn bwriadu dysgu Cymraeg.

Ar ôl symud i fyw i Gymru mae un o sêr Bollywood yn bwriadu dysgu'r iaith.

Mae Mayur Verma, 43, neu 'Raj', wedi prynu tŷ yn ardal Dolgellau.

Mae'n byw yno gyda'i wraig a dau o blant, ynghyd a'i fam sy'n adnabyddus fel awdur sgript a chyfarwyddwr ffilm.

Dywedodd ei fod yn bwriadu dysgu Cymraeg gan ei fod yn rhan bwysig o'r diwylliant lleol.

Mae o hefyd yn awyddus i annog cynhyrchwyr Bollywood i gynhyrchu ffilmiau yng Nghymru.

Mae Mr Verma, sydd â thai yn India, Llundain a'r Unol Daleithiau, wedi ymddangos mewn bron i 180 o ffilmiau ers yn blentyn.

Dysgu Cymraeg

"Mae pawb mor groesawgar yma ac yn gyfeillgar, mae'n le gwych i fagu teulu," meddai.

Fe ddaeth Mr Verma i amlygrwydd dros nos yn Bollywood tra'n blentyn gyda'r ffilm Mukaddar Ka Sikander.

Ymhlith ei waith diweddar mae'r ffilm deledu Ahsaab (Yr ofn), gafodd ei gynhyrchu ym Meirionnydd.

"Rwyf wedi prynu tŷ yma. Dwi wrth fy modd gyda'r bobl a'r diwylliant, ar ffaith fod o'n le tawel," meddai.

"Mae gan ogledd Cymru gymaint i'w gynnig a dwi'n gobeithio gwneud mwy o waith ffilm yma.

"Ond byddwn hefyd yn licio meddwl y gallaf fod yn ddolen gyswllt rhwng yr ardal a chynhyrchwyr ffilm Bollywood

'Lleoliad gwych'

"Mae'n lleoliad gwych a byddai'n sicr yn hwb i'r diwydiant ymwelwyr lleol gan fod pobl o Asia yn hoff iawn o ymweld â llefydd sy'n ymddangos ar ffilm."

Mae Mr Verma wedi bod yn dod i Gymru ar ei wyliau bob blwyddyn ers 10 mlynedd.

Dywedodd ei fod yn bwriadu anfon ei blant i ysgol feithrin Gymraeg.

"Dwi am i fy mhlant ddysgu Cymraeg, fel fy mod i'n gallu dysgu'r iaith ganddyn nhw," meddai.

"Dwi'n parchu diwylliant yr ardal a dwi'n meddwl bod hi'n hynod bwysig i ddysgu'r iaith."


HEFYD
Actor yn dychwelyd i Bortmeirion
19 Awst 07 |  Newyddion
Apêl sinema yn llwyddo
01 Maw 07 |  Newyddion

CYSYLLTIADAU RHYNGRWYD:
Dyw'r BBC ddim yn gyfrifol am gynnwys safleoedd rhyngrwyd allanol


Gwasanaethau ebost | ticer newyddion | Amodau Defnyddio | Preifatrwydd a Chwcis


Yn ôl i'r brig ^^