BBC Home
Explore the BBC
Chwiliwch yn Gymraeg
---------------
---------------
---------------
BBC Vocab
OFF / I FFWRDD
» Turn ON
Troi YMLAEN
» What is VOCAB? Beth yw GEIRFA?
SAFLEOEDD
ERAILL BBC
---------------
NEWYDDION
MEWN IEITHOEDD ERAILL
Arabic
Espanol
Russian
Chinese
Diweddarwyd: Dydd Mercher, 29 Awst 2007, 06:15 GMT 07:15 UK
'Miloedd' o swyddi gofal plant
Jane Hutt
Jane Hutt: "Ni fu erioed gwell amser i ystyried gyrfa yn gweithio gyda phlant."

Mae ymgyrch ar droed i ddenu 'miloedd' o weithwyr newydd i'r maes gofal plant yng Nghymru.

Bydd y Gweinidog dros Blant, Addysg, Dysgu Gydol Oes a Sgiliau, Jane Hutt yn lansio ymgyrch recriwtio ddydd Mercher yn galw ar weithwyr newydd i helpu plant i 'Chwarae, i Ddysgu ac i Dyfu.'

Bydd y swyddi ar gael i ofalwyr plant, gweithwyr chwarae a chynorthwywyr dosbarth, mewn ymgais i roi dechrau gwell i bobl ifanc.

Nod arall ymgyrch yw annog pobl sy'n gweithio yn y maes i ymgeisio am sgiliau a chymwysterau uwch.

Mae'r cynllun yn cael ei lansio yng Nghanolfan Ddydd Integredig arbennig Rhydyfelin ym Mhontypridd.

Dywedodd Ms Hutt fod dros 26,000 o bobl yng Nghymru eisoes yn gweithio yn y sector .

"Ni fu erioed gwell amser i ystyried gyrfa yn gweithio gyda phlant yng Nghymru," meddai.

Yn ôl Ms Hutt mae'r galw wedi cynyddu yn y sector yn rhannol oherwydd mentrau gan Lywodraeth Cynulliad Cymru.

Y blynyddoedd 'pwysicaf'

Mae'r rhaglen Dechrau'n Deg yn darparu gwasanaethau gofal plant am ddim i deuluoedd sy'n byw mewn ardaloedd difreintiedig.

Bydd y Cyfnod Sylfaen newydd, sy'n ddull newydd o ddysgu i blant tair i saith oed, hefyd yn creu tua 2,300 o swyddi newydd i gynorthwywyr dosbarth o fis Medi 2008 ymlaen.

dosbarth
Bydd y swyddi ar gyfer gofalwyr plant, gweithwyr chwarae a chynorthwy-wyr dosbarth

Yn ôl y Gweinidog mae llwyddiant y mentrau hyn yn dibynnu ar ansawdd ac ymrwymiad y staff.

"Mae'n hanfodol ein bod yn cael hyn yn iawn - blynyddoedd cynnar y plentyn yw'r blynyddoedd pwysicaf o ran ffurfio eu datblygiad ar gyfer y dyfodol. Felly, rydym am fuddsoddi'n sylweddol mewn staff ac mewn hyfforddiant i sicrhau bod gennym y bobl iawn."

Bydd yr ymgyrch recriwtio'n cynnwys nifer o hysbysebion ar y teledu, ar y radio ac yn y wasg yn ogystal â gwefan yn cynnwys gwybodaeth am yrfaoedd, a chyfleoedd hyfforddiant.

Am ragor o wybodaeth ffoniwch 0800 100 900 neu ewch i www.playlearngrowwales.gov.uk


CYSYLLTIADAU RHYNGRWYD:
Dyw'r BBC ddim yn gyfrifol am gynnwys safleoedd rhyngrwyd allanol


Gwasanaethau ebost | ticer newyddion | Amodau Defnyddio | Preifatrwydd a Chwcis


Yn ôl i'r brig ^^