Er iddo nhw guro Latvia ac Estonia, colli fu'r hanes yn erbyn tim Rwsia
|
Mae clwb criced pentre yn honni mai nhw ydi'r clwb cynta o'i fath o Gymru i guro dau dîm cenedlaethol.
Fe lwyddodd Clwb Criced Carmel ger Treffynnon, i guro timau cenedlaethol Estonia a Latvia yn ystod taith 10 niwrnod yn nwyrain Ewrop.
Fe wnaeth y tîm o 12 dyn chwarae yn St Petersburg a Moscow hefyd er bod tîm cenedlaethol Rwsia yn rhy dda i'r Cymry.
Dywed swyddogion y clwb eu bod fel arfer yn mynd ar daith i lefydd fel Derby a Amwythig ond roedden nhw am "fynd i rywle gwahanol" eleni.
Roedd y tim yn fuddugol yng nghystadleuaeth Helsinki
|
Pluen arall yn het y clwb oedd ennill cystadleuaeth chwe yr ochr Helsinki.
Nhw oedd y clwb tramor cynta ers 12 mlynedd i ennill y gystadleuaeth.
Fe guro nhw Estonia yn y gêm derfynol.
Yn ôl trefnydd y daith, Timothy Abraham, fe lwyddwyd i guro Latvia ar gêm ola'r daith a hynny ar ôl bod mewn trên am 17 awr.
"Rwy'n eitha sicr bod ein buddugoliaeth dros Latvia ac Estonia yn golygu mai ni yw'r tîm pentre cyntaf o Gymru i guro dau dîm cenedlaethol," meddai Mr Abraham.
Dywedodd fod o'n bwysig i dimau deithio i wledydd o'r fath er mwyn hyrwyddo'r gêm.
"Gobeithio yn y dyfodol y byddwn ni'n gallu estyn croeso i dimau o'r gwelydd yma i'n maes chwarae yn Pen-Y-Gelli ."