Y myfyrwyr yn cyflwyno baner Chubut i'r Gweinidog dros Dreftadaeth
|
Tra bod tîm rygbi'r Ariannin yn paratoi ar gyfer y gêm yn erbyn Cymru yn Stadiwm y Mileniwm ddydd Sadwrn, mae grŵp arall o Archentwyr wedi bod yng Nghaerdydd i wynebu her wahanol.
Mae grŵp o fyfyrwyr y Gymraeg o Batagonia wedi bod yn astudio'r iaith ym Mhrifysgol Caerdydd dros yr haf.
Roedd hyn yn rhan o brosiect Llywodraeth Cynulliad Cymru yn Chubut, talaith yn Yr Ariannin.
Bwriad y prosiect yw cefnogi ymdrech i gynyddu'r niferoedd o siaradwyr Cymraeg yn Y Wladfa.
Wrth ymweld â'r Senedd ym Mae Bae Caerdydd fe wnaethon nhw gwrdd â Rhodri Glyn Thomas AC, y Gweinidog dros Dreftadaeth, a chyflwyno baner Chubut iddo.
'Ysbrydoliaeth'
Dywedodd Mr Thomas: "Mae'r prosiect hwn yn bartneriaeth rhwng Llywodraeth y Cynulliad, y Cyngor Prydeinig, Cymdeithas Cymru-Ariannin a Chanolfan Dysgu Cymraeg, Prifysgol Caerdydd.
"Fe hoffwn i ddweud diolch wrth bawb sy' ynghlwm â'r prosiect, yn enwedig y myfyrwyr, a gobeithiaf y bydden nhw'n ysbrydoliaeth i ddysgwyr eraill pan maen nhw'n mynd yn ôl i Chubut.
"Ond gobeithio na fydd tîm Yr Ariannin yn mwynhau'r un llwyddiant yn erbyn Cymru!"
Dywedodd un o'r myfyrwyr, Ricardo Williams: "Rydyn ni wedi mwynhau ein hunan yn dysgu Cymraeg yma yng Nghymru ac rydyn ni'n edrych ymlaen at fynd yn ôl i'r Ariannin i ddysgu'r Gymraeg i eraill.
"Ond rydyn ni dal yn mynd i gefnogi'r Ariannin ar y maes rygbi!"
Dywedodd Linda Hall, cyfarwyddwr cynorthwyol, Cyngor Prydeinig Cymru bod y myfyrwyr wedi bod yno am ddau fis.
"Rydw i'n siŵr fod y cwrs wedi rhoi hwb i'w Cymraeg a'u hannog nhw i fynd adref a, gobeithio, dod yn diwtoriaid Cymraeg yn y dyfodol".