BBC Home
Explore the BBC
Chwiliwch yn Gymraeg
---------------
---------------
---------------
BBC Vocab
OFF / I FFWRDD
» Turn ON
Troi YMLAEN
» What is VOCAB? Beth yw GEIRFA?
SAFLEOEDD
ERAILL BBC
---------------
NEWYDDION
MEWN IEITHOEDD ERAILL
Arabic
Espanol
Russian
Chinese
Diweddarwyd: Dydd Gwener, 17 Awst 2007, 07:27 GMT 08:27 UK
Llygredd yn lladd 800 o bysgod
Pysgod marw mewn digwyddiad tebyg yn Afon Elai
Mae llygredd mewn afonydd yn ddigwyddiad cyffredin

Mae swyddogion Asiantaeth yr Amgylchedd yn apelio am gymorth ar ôl i afon gael ei llygru.

Cafodd tua 800 o frithyll brown eu lladd yn Afon Ebwy Fach rhwng Abertyleri a Six Bells.

Credir mai rhyw fath o lanedydd sy'n gyfrifol.

Mae'r llygredd wedi effeithio ar tua milltir o'r afon.

Mae'r asiantaeth yn cynnal ymchwiliad ar ôl derbyn adroddiadau am bysgod marw tua 9.20am ddydd Sul.

"Fe gawson ni ddigwyddiad tebyg i lawr yr afon yn Afon Ebwy yng Nghrymlyn yn y gorffennol," meddai swyddog gyda'r asiantaeth, Ashley Lansdown.

"Wnaethon ni ddim canfod tarddiad y llygredd ar y pryd er bod yr awdurdod lleol wedi archwilio'r system draen."

Yn ystod haf 2003, 2004 a 2005 cafwyd achosion o lygredd o geuffos Crymlyn arweiniodd ar ladd miloedd o bysgod yn Afon Ebwy.

Y llynedd dywedodd yr asiantaeth eu bod yn "cadw gwyliadwriaeth fanwl" o ddwy stad ddiwydiannol gyfagos.

Ond fe wnaethon nhw ddweud nad oedd 'na achosion pellach ar y pryd.

Os oes gan unrhyw un wybodaeth am y digwyddiad diweddara fe ddylen nhw gysylltu gyda llinell wybodaeth yr asiantaeth am ddim ac yn gyfrinachol ar 0800 80 70 60.




CYSYLLTIADAU RHYNGRWYD:
Dyw'r BBC ddim yn gyfrifol am gynnwys safleoedd rhyngrwyd allanol


Gwasanaethau ebost | ticer newyddion | Amodau Defnyddio | Preifatrwydd a Chwcis


Yn ôl i'r brig ^^