Aled Lloyd Davies yn trosglwyddo'r awennau i Huw Llywelyn Davies
|
Fe fu Eisteddfod Sir Fflint a'r Cyffiniau yn llwyddiant mewn mwy nag un ystyr, yn ôl y trefnwyr.
Dyddiau cyn i'r brifwyl ddechrau ar Stad Pentrehobin ar gyrion Yr Wyddgrug roedd 'na bryderon ar ôl wythnosau o dywydd gwael.
Ond fe gododd yr haul ac mae eisteddfodwyr wedi gweld yr angen am eli haul yn hytrach na'r ymbarél.
Dywedodd Aled Lloyd Davies, Cadeirydd Pwyllgor Gwaith Sir y Fflint, fod y brifwyl wedi bod yn llwyddiannus yn ariannol hefyd.
Er bu rhaid talu o leiaf £60,000 i wneud ffyrdd addas ar y maes oherwydd y mwd, dywedodd Dr Davies bod hi'n braf cyhoeddi "bod yr Eisteddfod wedi talu ffordd".
"Dwi'n hapus iawn oherwydd roeddwn yn ymwybodol o'r cyfrifoldeb oedd arna i.
"Mae angen diolch i'r Cyngor Sir sydd wedi bod yn gefnogol iawn ac i'r holl bwyllgorau lleol a'r tîm o wirfoddolwyr."
Fe wnaeth 19,184 o bobl ymweld â'r Maes ar y diwrnod olaf, ychydig yn llai na'r ddwy flynedd diwethaf.
Roedd cyfanswm yr ymwelwyr eleni yn 154,944. Yn Abertawe y llynedd roedd 'na 155,437 a 157,820 yn Eryri yn 2005.
Cronfa apêl
Eglurodd Dr Davies bod Cyngor Sir y Fflint wedi cychwyn y gronfa apêl gyda £100,000 a bod honno wedi cyrraedd £365,000 sy'n £100,000 mwy na'r targed.
Er gwaetha'r pryder ddyddiau cyn yr Eisteddfod mae e'n falch iawn o weld y llwyddiant.
Lluniau o'r mwd ar y maes ddyddiau cyn cychwyn yr Eisteddfod
|
"Mae nifer fawr wedi bod yma yn ystod yr wythnos ac roedd yn braf gweld cynifer yn y cynghreddau hefyd.
"Rhaid diolch hefyd i drefnwyr yr Eisteddfod am sicrhau'r noddwyr - gwerth £400,000."
Mae Dr Davies yn dymuno'n dda i'w olynydd, Huw Llywelyn Davies, sy'n cadeirio'r pwyllgor gwaith yn y brifddinas.
Wrth dderbyn yr awennau dywedodd Mr Davies ei fod yn llongyfarch Eisteddfod 2007 am wythnos arbennig ond ei fod yn gofidio mai'r Eisteddfod nesaf fydd yr un yng Nghaerdydd.
Eglurodd bod y trefniadau yn mynd rhagddynt yn llwyddiannus a'u bod hanner ffordd tuag at y targed ariannol.
Ond dywedodd bod her i'r brifddinas godi ymwybyddiaeth ymhlith y rhai sy'n gwybod dim am y brifwyl.
"Mae 'na her i ni i gael Eisteddfod cystal os nad rhagori ar hon," meddai.
"Fe fydd rhaid gadael Sir Fflint a mynd ati i dorchi llewys.
"Er bod 'na fwy o bobl a mwy o arian mae'n anoddach ei glustnodi ar gyfer y brifwyl ond dyna'r her."