Mae rygbi a chrefydd yn byw ochr yn ochr yn y llyfr
|
Nid "wimps" sy'n mynd i'r Ysgol Sul, yn ôl Ysgrifennydd Cyngor yr Ysgolion Sul.
Roedd Aled Davies yn gwneud y sylw wrth i lyfr arbennig gael ei gyhoeddi ar Faes yr Eisteddfod.
Codi'r Cwpan yw enw'r llyfryn sydd yn cynnwys rhestr o holl gemau Cwpan Rygbi'r Byd fydd yn dechrau mis nesa.
Fe fydd modd i'r plant gadw golwg ar y gemau a llenwi'r llyfr gyda'r canlyniadau.
Mae yna ychydig o hanes chwaraewyr sy'n Gristnogion ac sy'n cymryd rhan yn y bencampwriaeth hefyd.
"Mae 'na bwt am bobl fel Jason Robinson ac Adrian Davies, sy'n Gristnogion ac yn chwarae rygbi," meddai Mr Davies.
10,000 o gopïau
"Maen nhw'n dweud hefyd pa mor bwysig ydi eu ffydd a'r Beibl.
"Dim jyst wimps sy'n mynd i'r Capel a'r Ysgol Sul ond mae 'na fechgyn mawr cyhyrog fel y rhai fydd yn cymryd rhan yn y bencampwriaeth.
"Mae hyn yn dangos bod ffydd yn real."
Fe fydd 10,000 o gopïau yn cael eu dosbarthu yn rhad ac am ddim i aelodau ysgolion Sul ac ysgolion Cymru.
Er bod nifer y capeli yn lleihau dywed Mr Davies bod mwy o blant yn mynd i'r ysgol Sul.
"Ond does 'na ddim cymaint o rieni yn mynd.
"Ein her dros y blynyddoedd nesaf ydi denu'r teuluoedd cyfan yn ôl."