BBC Home
Explore the BBC
Chwiliwch yn Gymraeg
---------------
---------------
---------------
BBC Vocab
OFF / I FFWRDD
» Turn ON
Troi YMLAEN
» What is VOCAB? Beth yw GEIRFA?
SAFLEOEDD
ERAILL BBC
---------------
NEWYDDION
MEWN IEITHOEDD ERAILL
Arabic
Espanol
Russian
Chinese
Diweddarwyd: Dydd Sadwrn, 11 Awst 2007, 14:04 GMT 15:04 UK
Pensaer yr Orsedd yn ymddeol
Ifan Lloyd Williams - Ifan Eryri
Am 47 mlynedd mae Ifan Eryri wedi bod yn bensaer yr Orsedd

Wedi 47 mlynedd fel pensaer i Orsedd y Beirdd, mae Ifan Lloyd Williams yn ymddeol.

Fel Ifan Eryri yn yr Orsedd, roedd yn gyfrifol am chwilio am gerrig i greu'r cylch bob blwyddyn wrth i'r brifwyl symud o le i le.

Yn wreiddiol o Feddgelert bu'n athro gwyddoniaeth yn Ysgol Bryn Eilian am 30 mlynedd.

Dywed bod angen 17 carreg ar gyfer y cylch, y porth a'r maen llog.

"Y pensaer sy'n hollol gyfrifol am holl feini'r Maes a rhai sydd ddim ar y maes," eglurodd.

"Roeddwn yn mynd bob mis Ionawr a Chwefror i'r chwarel lleol i'r Eisteddfod i ddewis y cerrig ac yn eu marcio cyn mynd yn ôl ddiwedd mis Mawrth i'w casglu a'u symud i'r safle i greu'r cylch.

"Dwi'n cofio yn Abergele i mi ddewis 17 o'r cerrig a phan aethon ni i'w nôl roedd dyn wedi eu malu'n gerrig bach!"

Dywedodd ei fod wedi cydweithio gyda 15 Archdderwydd a 9 trefnydd Eisteddfod ond roedd yn dweud bod pethau wedi newid yn aruthrol.

Fydd dim pensaer arall a dyma ddiwedd y stori
Ifan Lloyd Williams

"Does 'na ddim pwyllgor Gorsedd na phwyllgor cyhoeddusrwydd, pethau sy'n bwysig iawn iawn i mi," meddai.

Ond erbyn hyn mae cerrig ffug yn cael eu defnyddio.

"Mae'n well bod y Cylch ar y Maes ac fe gawson ni 4,000 yn ein gwylio ddydd Llun.

'Llwyddiant'

"Mae'r Meini yma wedi bod yn llwyddiant, a doeddwn i ddim o'u plaid."

Eglurodd ei fod wedi bod yn trafod gyda chwmnïau fel y BBC, ITV a Pinewood cyn cyfarfod Emyr a Christine Roberts o Fethesda wnaeth y cerrig.

"Ond maen nhw'n ardderchog a dwi'n falch iawn."

Fydd neb yn camu i esgidiau Ifan Eryri.

"Mae llai o waith oherwydd y rhai ffug a hynny yn un rheswm dros ymddeol ond weithiau mae'n anodd dygymod efo newidiadau ac mae'n well rhoi gorau iddi.

"Fydd dim pensaer arall a dyma ddiwedd y stori."




SIR FFLINT A'R CYFFINIAU 2007

NEWYDDION

CEFNDIR

YR ORSEDD

O'R ARCHIF

GWEFAN



Gwasanaethau ebost | ticer newyddion | Amodau Defnyddio | Preifatrwydd a Chwcis


Yn ôl i'r brig ^^