BBC Home
Explore the BBC
Chwiliwch yn Gymraeg
---------------
---------------
---------------
BBC Vocab
OFF / I FFWRDD
» Turn ON
Troi YMLAEN
» What is VOCAB? Beth yw GEIRFA?
SAFLEOEDD
ERAILL BBC
---------------
NEWYDDION
MEWN IEITHOEDD ERAILL
Arabic
Espanol
Russian
Chinese
Diweddarwyd: Dydd Sadwrn, 11 Awst 2007, 10:39 GMT 11:39 UK
Sarah yn ennill gwobr goffa
Sarah Astley
Dyma'r tro cyntaf i'r wobr goffa gael ei chyflwyno

Sarah Astley o'r Drenewydd yw enillydd cyntaf Gwobr Goffa Wil Petherbridge am gyfieithu.

Derbyniodd y wobr ym Mhabell Cymdeithas Cyfieithwyr Cymru ar Faes yr Eisteddfod.

Roedd y wobr yn cael ei rhoi i'r ymgeisydd gorau am aelodaeth sylfaenol yn ystod y ddwy rownd arholi cyfieithu i'r Gymraeg gafodd eu cynnal ym mis Hydref 2006 a mis Mawrth 2007.

Mae Sarah yn gweithio fel Swyddog Cefnogi'r Gymraeg yn Adran Ysgolion a Chynhwysiant Cyngor Sir Powys.

Cafodd ei haddysg yn Ysgol Gynradd Hafren yn Y Drenewydd ac Ysgol Uwchradd Caereinion yn Llanfair Caereinion ac yna graddiodd gyda BA mewn Cymraeg a Cherddoriaeth ym Mhrifysgol Caerdydd ac yna ennill MA mewn Astudiaethau Gwerin.

Proffesiynol

Roedd Mr Petherbridge yn wreiddiol o Gaerdydd, yn ysgrifennydd y Gymdeithas ac yn arloeswr ym myd cyfieithu yng Nghymru.

Bu'n gyfieithydd i ddechrau yn Ynys Môn cyn cael ei benodi yn gyfieithydd ym Mhrifysgol Aberystwyth ac yno bu'n rhedeg ei gwrs cyfieithu ei hun.

"Roedd gan Wil uchelgais bendant, troi'r Gymdeithas yn un gwbl broffesiynol ei hagwedd," meddai Berwyn Prys Jones, Cadeirydd y Gymdeithas.

"Yn 1989 cafodd berswâd arnom fel cymdeithas i sefydlu trefn arholi ac asesu."

Mae'r drefn honno yn parhau ac yn fodd o osod safon broffesiynol yng Nghymru.

Roedd gweddw Mr Petherbridge, Sandra, a'r merched Catrin a Ceri, yn y seremoni wobrwyo.

"Rydym yn llongyfarch Sarah yn wresog ar ei champ ac yn ymfalchïo ein bod yn cofio am gyfaill a chydweithiwr annwyl iawn," ychwanegodd Mr Jones.




SIR FFLINT A'R CYFFINIAU 2007

NEWYDDION

CEFNDIR

YR ORSEDD

O'R ARCHIF

GWEFAN


CYSYLLTIADAU RHYNGRWYD:
Dyw'r BBC ddim yn gyfrifol am gynnwys safleoedd rhyngrwyd allanol


Gwasanaethau ebost | ticer newyddion | Amodau Defnyddio | Preifatrwydd a Chwcis


Yn ôl i'r brig ^^