Camp: Wedi ennill cadair a choron ar yr un testun
|
T James Jones o Gaerdydd sydd wedi ennill Cadair Eisteddfod Sir Fflint a'r Cyffiniau 2007.
Y dasg i'r saith wnaeth gystadlu oedd ysgrifennu awdl ar gynghanedd heb fod dros 200 llinell ar y testun Ffin.
Enillodd Goron yr Eisteddfod yn Abergwaun yn 1986 ac yng Nghasnewydd yn 1988 am ei bryddestau, Llwch a Ffin.
Y tri beirniad oedd James Nicholas, Myrddin ap Dafydd a Mererid Hopwood.
Dywedodd James Nicholas fod hwn yn waith bardd sy'n "amlygu crefft arbennig" wrth fyfyrio ar ystyr bod.
'Gwydion o fardd'
"Mae awdl Un o ddeuawd yn ddarn o waith celfyddyd gan fardd sydd yn artist, yn Wydion o fardd.
"Mae dyfnder i'r dweud ... a'r llinellau agoriadol yn cynnig allwedd i'w chyfrinach.
"Un o nodweddion y bardd yw tynnu o ffynonellau chwedloniaeth Cymru ... a grymus yw'r cyfeiriad at dynged y tir yn ein hoes ni."
Mae'r enillydd yn ewythr i'r Prifardd Tudur Dylan Jones enillodd y Goron ddydd Llun.
Yn Eisteddfod Bro Colwyn yn 1995 enillodd Tudur Dylan y Gadair a'i ewythr arall, Aled Gwyn, enillodd y Goron.
Parc Nest
Cafodd T James Jones ei eni yng Nghastell Newydd Emlyn, yn un o fois Parc Nest.
Graddiodd yng Ngholeg y Brifysgol Aberystwyth a Choleg Presbyteriaid, Caerfyrddin.
Bu'n weinidog gyda'r Annibynwyr ym Mynydd-bach, Abertawe, a'r Priordy, Caerfyrddin, cyn darlithio yn y Gymraeg a Drama yng Ngholeg y Drindod, Caerfyrddin.
Bu wedyn yn aelod o adran sgriptiau'r BBC, yn bennaf fel golygydd Pobol y Cwm.
Mae'n briod gyda'r awdur Manon Rhys ac yn dad i Tegid a Bedwyr, yn llystad i Owain a Llio ac yn dad-cu i Daniel, Mathew a Gruffudd.
Cyhoeddodd nifer o ddramâu, cyfaddasiadau o ddramâu fel Dan y Wenallt a phedair cyfrol o gerddi.
Dywedodd ei fod yn gwerthfawrogi anogaeth ei briod a'i frodyr, John Gwilym ac Aled, heb anghofio ei nai, Tudur Dylan.
Mae wedi ennill cadair a choron felly ar yr un testun.
Ffrae
Roedd ei ffugenw eleni, Un o ddeuawd, yn adlais o'r ffrae pan gystadlodd am y Goron yn Eisteddfod Caernarfon yn 1979.
Fe gydweithiodd gyda Jon Dressel y flwyddyn honno a'u ffugenw oedd Ianws, duw y Rhufeiniaid, yr un â dau wyneb.
Ond er mai cerddi Ianws oedd y gorau, gwobrwywyd Meirion Evans gan fod rheolau'r gystadleuaeth wedi eu torri.
Eleni cafodd y Gadair ei chyflwyno i'r enillydd gyda Ł750 yn rhodd gan Siop y Siswrn Yr Wyddgrug a Wrecsam.
Cafodd y Gadair ei gwneud gan grefftwyr lleol, y tad a'r mab, Graham ac Ian Pickstock.