Ieuan Wyn Jones: Cefn gwlad ar agor o hyd
|
Mae Dirprwy Brif Weinidog Cymru wedi annog pobl i fynd i'r sioeau amaethyddol yn ystod yr wythnosau nesaf - yn union fel mae miloedd wedi heidio i'r Eisteddfod Genedlaethol.
Dywedodd Ieuan Wyn Jones wrth aelodau'r wasg ddydd Gwener yn y Brifwyl fod angen cefnogi'r sioeau.
Roedd cefn gwlad Cymru ar agor o hyd, meddai, er gwaetha clwy'r traed a genau yn ne Lloegr.
"Ar fin yr Eisteddfod y daeth y cyhoeddiad am y clwy a'r neges bwysig iawn ganddon ni fel llywodraeth oedd bod Cymru ar agor.
'Cyfle i fwynhau'
"Mae'n bwysig bod pobl yn gwybod hyn a bod cyfle i fwynhau cefn gwlad a diwylliant fel yma yn yr Eisteddfod.
"Rydan ni'n annog pobl i ymweld â'r sioeau fel Sioe Môn, Penfro, Dinbych a Fflint yn eu miloedd fel maen nhw wedi ei wneud yma yhn yr Eisteddfod.
"Rhaid dangos cefngoaeth i'r dwyidiant sydd wedi wynebu cyfnod anodd."
Dywedodd ei fod yn llongyfarch trefnwyr yr Eisteddfod oedd wedi wynebu problemau oherwydd y tywydd.
"Mae popeth wedi dwyn ffrwyth ac rydan ni'n falch iawn o'r hyn sydd yma ac mae'r tyrfaoedd wedi dod ac wedi mwynhau."