BBC Home
Explore the BBC
Chwiliwch yn Gymraeg
---------------
---------------
---------------
BBC Vocab
OFF / I FFWRDD
» Turn ON
Troi YMLAEN
» What is VOCAB? Beth yw GEIRFA?
SAFLEOEDD
ERAILL BBC
---------------
NEWYDDION
MEWN IEITHOEDD ERAILL
Arabic
Espanol
Russian
Chinese
Diweddarwyd: Dydd Gwener, 10 Awst 2007, 11:35 GMT 12:35 UK
Deuawd: Ennill er gwaetha popeth
Owain Sion ac Awel Mai
Dydd Llun dechreuodd y ddau ymarfer

Dim ond tridiau y cafodd menyw ifanc i ddysgu'r geiriau a'r alaw ar gyfer cystadleuaeth cerdd dant ond roedd hynny'n ddigon.

Roedd Owain Sion o Lwyndyrys, sy'n byw yng Nghaerdydd, yn cystadlu yn y ddeuawd Cerdd Dant dros 21 oed ddydd Iau.

Ond wrth iddo fynd i'r Eisteddfod ddydd Gwener diwethaf fe gafodd wybod fod ei gydganwr wedi tynnu'n ôl.

Felly cysylltodd â ffrindiau i chwilio am rywun a daeth Awel Mai o Gaernarfon i'r adwy.

Er nad oedd hi'n gwybod y geiriau na'r alaw fe enillodd y ddau'r gystadleuaeth.

Neges

Fe adawodd Owain neges iddi nos Wener ac fe gysylltodd hi'n ôl nos Sadwrn a dweud y byddai ganddi ddiddordeb.

Dydd Llun y cyfarfu'r ddau gyntaf i ddysgu'r geiriau a'r alaw.

Roeddwn i wedi dewis peidio tynnu allan o'r gystadleuaeth gan fod hi'n bwysig cefnogi'r Eisteddfod
Owain Sion

Roedd Owain yn gwybod y darn ac wedi gwneud y gosodiad ar gyfer cerdd Meirion MacIntyre Huws, Hyd yn Oed, ar gainc Siliwen gan Gwennan Pyrs.

"Fe fuon ni'n ymarfer ac yn dysgu'r gwaith drwy'r dydd Llun ar ôl i Alaw ddod draw i lle oeddwn i'n aros," meddai Owain.

"Aeth adre i Gaernarfon wedyn i ddysgu'r gwaith ddydd Mawrth cyn cael ymarfer arall efo'n gilydd ddydd Mercher.

"Fe gawson ni ymarfer bach wedyn cyn y rhagbrawf ddydd Iau."

Roedd 15 deuawd wedi cynnig enwau cyn cystadlu ond dim ond wyth oedd yn y rhagbrawf.

Cefnogaeth

"Roedd yn dipyn o sioc cael llwyfan," meddai Owain.

"Ond roedd hi'n dipyn mwy o sioc wedyn i ennill."

Roedd Awel wedi cystadlu gyda'i chwaer Elenid yn y gorffennol ond ddim wedi cystadlu am dros 10 mlynedd.

"Roeddwn i wedi dewis peidio tynnu allan o'r gystadleuaeth gan fod hi'n bwysig cefnogi'r Eisteddfod," meddai Owain, ysgrifennydd Pwyllgor Cerdd Dant Eisteddfod Caerdydd 2008.

"Y gobaith ydi petai rhai o Gaerdydd yn cystadlu yn y gogledd eleni y bydd rhai o'r gogledd yn dod i'r Steddfod flwyddyn nesa i'n cefnogi.

"Y tueddiad ydi i bobl o'r gogledd beidio cystadlu yn eisteddfodau'r de."

Hwb

Dywedodd ei fod e fel nifer fu'n cystadlu yn y gorffennol wedi derbyn llythyr gan Aled Lloyd Davies yn eu hannog i gystadlu.

"Mae cystadlaethau cerdd dant wedi bod yn dda iawn a nifer wedi cystadlu, o bosib oherwydd llythyr Aled," meddai Owain.

"Roedd nifer o bobl wedi dod yn ôl at ei gilydd ar gyfer cystadleuaeth y ddeuawd."

Dywedodd fod Awel yn falch ei fod wedi gofyn iddi am help.

"Gobeithio y gallwn ni gario mlaen gyda'r ddeuawd."




SIR FFLINT A'R CYFFINIAU 2007

NEWYDDION

CEFNDIR

YR ORSEDD

O'R ARCHIF

GWEFAN



Gwasanaethau ebost | ticer newyddion | Amodau Defnyddio | Preifatrwydd a Chwcis


Yn ôl i'r brig ^^