Yr Ysgwrn oedd cartref Hedd Wyn
|
Ar ddiwrnod seeremoni'r Cadeirio daeth galwad am gadw cartref y bardd Hedd Wyn ar gyfer cenedlaethau i ddod.
Yr Ysgwrn yw cartref y Gadair Ddu ers i'r bardd ei hennill yn Eisteddfod Penbedw 90 mlynedd yn ôl.
Pryder rhai yw y gallai'r cyhoedd golli'r hawl i fynd yno os oes perchnogion newydd.
Yn y ffermdy ar gyrion Trawsfynydd y cafodd y bardd, Ellis Humphrey Evans, ei eni a'i fagu.
Cafodd ei ladd ar Orffennaf 31 1917, wythnosau cyn bod yn fuddugol yn yr Eisteddfod gyda'i awdl i'r Arwr.
'Drws ar agor'
Hedd Wyn - Bardd y Gadair Ddu
|
"Dymuniad yr hen wraig [mam Hedd Wyn] oedd i ni gadw'r drws ar agor," meddai Gerald Williams, nai'r bardd.
"Bydda i'n cadw'r drws ar agor i ymwelwyr tra bydda i ond be' fydd yn digwydd wedyn, dwn i ddim."
Ar Faes yr Eisteddfod ddydd Iau bu galw am gadw'r Ysgwrn fel adnodd ar gyfer y cenedlaethau i ddod.
"Y pryder ydi ar ôl dydd Gerald a'r teulu a fydd y croeso'r un fath?," gofynnodd Elfyn Llwyd, AS Meirionnydd Nant Conwy.
"Dwi'n credu mai canolfan y dylai fod er cof am Hedd Wyn, i goffáu a chlodfori ein diwylliant, ein barddoniaeth a Hedd Wyn ac mae'n bwysig i gof ein cenedl."
Mwy o defnydd
Mae 'na alw am wneud mwy o ddefnydd o'r Gadair Ddu.
Dywedodd y Parchedig D Ben Rees, hanesydd sy'n byw yn Lerpwl, fod nifer o'r farn mai hon oedd y "gadair berffeithiaf a luniwyd erioed ar gyfer Eisteddfod.
"Fe ddylid gwneud mwy o'r Gadair wnaed gan y dyn o Wlad Belg," ychwanegodd.
Dywedodd Gweinidog Treftadaeth y Cynulliad, Rhodri Glyn Thomas, ei fod o blaid diogelu'r Ysgwrn.
Ond, yn gyntaf, meddai, roedd angen paratoi cynllun busnes credadwy er mwyn argyhoeddi'r corff treftadaeth Cadw.