BBC Home
Explore the BBC
Chwiliwch yn Gymraeg
---------------
---------------
---------------
BBC Vocab
OFF / I FFWRDD
» Turn ON
Troi YMLAEN
» What is VOCAB? Beth yw GEIRFA?
SAFLEOEDD
ERAILL BBC
---------------
NEWYDDION
MEWN IEITHOEDD ERAILL
Arabic
Espanol
Russian
Chinese
Diweddarwyd: Dydd Iau, 9 Awst 2007, 20:18 GMT 21:18 UK
Hofrennydd yn syrthio: Teyrnged
David Sale a Phillip Burfoot
Bu farw David Sale (chwith) a Sarjant Phillip Burfoot
Mae ymchwiliad yn cael ei gynnal ar ôl i ddau o bobl farw wedi i hofrennydd Puma yr Awyrlu syrthio i'r ddaear ger Caterick yn Swydd Gogledd Efrog.

Nos Iau cadarnhaodd y Weinyddiaeth Amddiffyn bod un o'r bobl fu farw - Sarjant Phillip Anthony Burfoot - yn dod o Gymru.

Y mae ei rieni yn byw yng Nghaerdydd.

Llwyddodd 10 person arall i ddianc ond mae o leiaf ddau o'r rheiny yn ddifrifol wael ac mewn ysbyty.

Roedd yr hofrennydd yn hedfan o wersyll Benson yn Swydd Rhydychen ar y pryd.

Bu farw y peilot David Sale, 28, a Sarjant Phillip Anthony Burfoot, 27 oed.

Disgrifiwyd Mr Burfoot fel dyn "cwbl ddibynadwy" a oedd yn "caru bywyd" gan ei gydweithwyr.



Gwasanaethau ebost | ticer newyddion | Amodau Defnyddio | Preifatrwydd a Chwcis


Yn ôl i'r brig ^^