Dywedodd yr Athro Hywel Teifi Edwards bod y croeso yn "amddifad" o ddychymyg
|
Mae un o hoelion wyth y byd Cymraeg wedi dweud bod y croeso a roddwyd i'r Cymry o dramor ar y llwyfan ddydd Mercher yn "amddifad" o ddychymyg.
Mae'r Athro Hywel Teifi Edwards yn feirniadol o'r "diffyg seremoni" gan ychwanegu bod y Cymry o dramor wedi "gwneud y gorau o'r gwaethaf".
Y mae'n galw am ail adfer y seremoni.
Doedd 'na ddim seremoni y llynedd ac fe gafodd Dr Melya Hughes Crameri, Arweinydd Cymru a'r Byd, ei gweld eleni ar y llwyfan yn ystod y Gymanfa Ganu a chyn cychwyn seremoni i anrhydeddu'r Prif Lenor ddydd Mercher.
Fe wnaeth Undeb Cymru a'r Byd ddweud fod yr hyn a ddigwyddodd ddoe yn "welliant sylweddol" ar y llynedd ond bod angen parhau i drafod.
Dywedodd Hywel Wyn Edwards, Trefnydd yr Eisteddfod, bod yr Undeb a'r Eisteddfod wedi dod i gytundeb.
Ddydd Mercher fe gafodd y Cymry alltud eu croesawu o lwyfan y brifwyl gan Yr Archdderwydd Selwyn Iolen a ddywedodd ei fod yn cael pleser arbennig o'u "gweld adre".
Roedd tua 120 o bobl o dramor yn y seremoni.