Fe wnaeth yr Eisteddfod ymweld â'r brifddinas y tro diwethaf 30 mlynedd yn ôl
|
Ar ôl i Eisteddfod 2007 ddirwyn i ben mae paratoadau yn cael eu gwneud yng Nghaerdydd i groesawu'r brifwyl yno'r flwyddyn nesaf.
Dywedodd Elgan Morgan, Aelod Gweithredol Cyngor Caerdydd dros yr Amgylchedd a Thrafnidiaeth, ei fod yn llongyfarch Sir y Fflint ar "eisteddfod lwyddiannus".
Ychwanegodd ei fod yn edrych ymlaen at groesawu'r brifwyl yn ôl i Gaerdydd y flwyddyn nesaf.
Caiff yr ŵyl ei chynnal yng nghanol y ddinas ar gaeau Pontcanna ac mae'r cynllunio wedi hen ddechrau.
Eglurodd Mr Morgan bod 'na dudalen eisoes ar wefan y cyngor fydd o gymorth i bobl drefnu eu hymweliad a manteisio ar "ystod eang o weithgareddau" sydd ar gael yn y brifddinas.
Parcio
"Mae'r maes yng nghanol y ddinas ac yn agos at yr orsaf drenau a'r orsaf bysiau," meddai Mr Morgan.
"Rydym am geisio bod yn fwy cynaliadwy ac felly fe fyddwn yn codi tâl ar y rhai fydd yn parcio yn y meysydd parcio a thalu penodol fydd ar gyfer yr eisteddfodwyr.
"Wrth gwrs rydym yn annog pobl i ddefnyddio trafnidiaeth gyhoeddus ac yn gobeithio y bydd y bws dŵr o'r bae i ganol y ddinas yn gweithredu erbyn hynny."
'Addysgu'
Ond cyfaddefodd ei bod hi'n her i addysgu pobl y ddinas am yr Eisteddfod a'r Gymraeg.
"Mae'r Eisteddfod yn bwysig iawn i'r ddinas ac mae nifer ddim yn gwybod be ydi hi nac erioed wedi bod iddi," ychwanegodd Mr Morgan yn ystod ymweliad â Maes yr Eisteddfod eleni.
"Fe fydd ymweliad yr Eisteddfod â Chaerdydd yn gyfle da i ddod â'r iaith a'r celfyddydau at ei gilydd.
"Mae'n bwysig ein bod yn codi ymwybyddiaeth o Gymreictod yn y brifddinas."
Ychwanegodd Elfed Roberts, Prif Weithredwr yr Eisteddfod, eu bod yn cydweithio'n agos gyda'r cyngor eisoes.
"Rydym yn cynnal trafodaethau gyda Chanolfan y Mileniwm i weld a oes modd defnyddio'r adnoddau yno yn ystod yr wythnos.
"Mae 'na bartneriaethau eraill hefyd yr ydym yn trafod gyda nhw.
"Does dim amheuaeth bod cynnal yr Eisteddfod yng nghanol dinas yn cyflwyno heriau gwahanol i'r arfer, ond mae cefnogaeth pawb yno wedi bod yn galonogol iawn ac fe allwn ddisgwyl croeso cynnes y flwyddyn nesa," ychwanegodd Mr Roberts.