BBC Home
Explore the BBC
Chwiliwch yn Gymraeg
---------------
---------------
---------------
BBC Vocab
OFF / I FFWRDD
» Turn ON
Troi YMLAEN
» What is VOCAB? Beth yw GEIRFA?
SAFLEOEDD
ERAILL BBC
---------------
NEWYDDION
MEWN IEITHOEDD ERAILL
Arabic
Espanol
Russian
Chinese
Diweddarwyd: Dydd Iau, 9 Awst 2007, 16:51 GMT 17:51 UK
Pwerdy 800m i Gymru
Gorsaf bwer
Bydd yr orsaf yn darparu pŵer ar gyfer tair miliwn o dai

Mae un o brif gwmnau ynni'r Deyrnas Unedig wedi cyhoeddi cynllun 800m i godi gorsaf bŵer yng Nghymru.

Cwmni RWE npower sydd wedi arwyddo cytundeb gyda chontractwr i godi "gorsaf carbon isel" fydd yn llosgi nwy yn Noc Penfro lle bydd 100 o swyddi.

Dywedodd Cyngor Sir Penfro eu bod yn croesawu'r newyddion ac wedi bod yn awyddus i ddenu'r buddsoddiad.

Yn gynharach eleni roedd y cwmni wedi dewis Staythorpe yn Sir Nottingham yn lle Doc Penfro ar gyfer prosiect tebyg ond nawr mae'n dweud y bydd y ddwy orsaf yn cael eu codi.

Dywedodd y cwmni eu bod yn anelu at ddechrau codi'r pwerdy eleni ac y byddai ar waith erbyn 2009, yn darparu pŵer ar gyfer tair miliwn o dai.

'Hollbwysig'

"Mae'n hollbwysig fod y diwydiant ynni ym Mhrydain yn adlewyrchu'r angen i leihau gollyngiadau deuocsid carbon," meddai prif weithredwr y cwmni Andrew Duff.

"Bydd y ddwy orsaf yn Staythorpe a Doc Penfro yn lle dwy orsaf sy'n llosgi glo yn Didcot a Tilbury yn Lloegr.

"Hwn yw'r amser i ddechrau codi gorsafoedd mawr a glanach."

Dywedodd y byddai gorsafoedd pŵer fyddai'n llosgi glo yn rhan o gynlluniau'r dyfodol.

"Mae disgwyl i 33% o'r gorsafoedd sy'n llosgi glo ym Mhrydain gau erbyn 2016.

"Er mwyn sicrhau cyflenwadau trydan, bydd angen rhai sy'n llosgi glo'n fwy effeithiol a bydd angen i ni fynd i'r afael sut i leihau gollyngiadau deuocsid carbon."

'Cam enfawr ymlaen'

Mae Cyfeiilion y Ddaear wedi dweud fod nwy'n lanach na glo ond na fyddai'r pwerdy hwn mor effeithlon gorsafoedd eraill am y byddai llawer o wres yn cael ei wastraffu.

Dywedodd John Allen-Mirehouse sy'n gyfrifol am ddatblygu economaidd ar Gyngor Sir Benfro: "Mae hwn yn gam enfawr ymlaen.

"Byddai croeso mawr i 100 o swyddi chyflogau da, a bydd yn golygu cyflenwad trydan 'gln' ar gyfer de Cymru ac yn cryfhau ein statws fel 'canolfan ynni' Cymru."




HEFYD
Cynllun gorsaf bwer 400m
31 Ion 07 |  Newyddion
Gorsaf bwer: 700 o swyddi
18 Gorff 05 |  Newyddion

CYSYLLTIADAU RHYNGRWYD:
Dyw'r BBC ddim yn gyfrifol am gynnwys safleoedd rhyngrwyd allanol


Gwasanaethau ebost | ticer newyddion | Amodau Defnyddio | Preifatrwydd a Chwcis


Yn ôl i'r brig ^^