BBC Home
Explore the BBC
Chwiliwch yn Gymraeg
---------------
---------------
---------------
BBC Vocab
OFF / I FFWRDD
» Turn ON
Troi YMLAEN
» What is VOCAB? Beth yw GEIRFA?
SAFLEOEDD
ERAILL BBC
---------------
NEWYDDION
MEWN IEITHOEDD ERAILL
Arabic
Espanol
Russian
Chinese
Diweddarwyd: Dydd Iau, 9 Awst 2007, 14:12 GMT 15:12 UK
Dic yw'r Archdderwydd
Dic Jones
Archdderwydd: Am ehangu apêl y Brifwyl

Mae Gorsedd Y Beirdd wedi cadarnhau mai Dic yr Hendre (Dic Jones) fydd yn olynu Selwyn Iolen fel Archdderwydd Cymru.

Dim ond un enw oedd wedi dod i law yn gynharach eleni.

Fe yw'r ffermwr cyntaf i fod yn Archdderwydd.

Roedd Selwyn Iolen wedi dweud yn ystod Seremoni Gyhoeddi Eisteddfod Caerdydd mai Dic Jones fyddai yn ei olynu.

Enillodd y ffermwr wedi ymddeol o Flaenannerch, Ceredigion, Gadair Eisteddfod Genedlaethol 1966 am ei awdl Y Cynhaeaf.

Er nad yw wedi ennill cadair ers hynny dywedodd nad oedd yn diystyru'r posibilrwydd.

Mae'r rheolau yn caniatáu i'r Archdderwydd ymgeisio.

'Ymylon'

Yn 1976 collodd y cyfle i gael ail Gadair pan gafodd ei feirniadu am dorri rheolau sef cystadlu pan oedd ar y Pwyllgor Llên.

Dywedodd ei fod am ehangu apêl y Brifwyl - i fwy o bobl "ar yr ymylon".

Dywedodd y byddai'n dymuno gweld mwy o bobl sy'n mynd i'r Sioe Fawr yn ymweld â'r Eisteddfod.

"Wrth fynd i'r Sioe Amaethyddol, dwi'n teimlo bod 'na groesdoriad ehangach o Gymry yno - yn bobl y wlad a'r dre.

"Hoffwn ddod â'r ddau draddodiad yn nes, tynhau efallai ond mae angen trwch mawr o'r boblogaeth tu ôl i ni.

Symud ymlaen

Dywedodd fod yr Orsedd yn datblygu drwy'r amser - er bod angen cadw'r traddodiadau roedd angen symud ymlaen hefyd, meddai.

"Mae'n braf gweld pobl ifanc, enillwyr yr Urdd yn cael eu hurddo ac mae hyn yn gam i'r cyfeiriad cywir," meddai.

"Efallai y bydd yn bosib ymestyn hyn i'n dysgwyr yn y dyfodol."




SIR FFLINT A'R CYFFINIAU 2007

NEWYDDION

CEFNDIR

YR ORSEDD

O'R ARCHIF

GWEFAN



Gwasanaethau ebost | ticer newyddion | Amodau Defnyddio | Preifatrwydd a Chwcis


Yn ôl i'r brig ^^