Mae ei waith wedi ei gyfieithu i fwy na 20 o ieithoedd
|
Mae bardd a nofelydd enwog o Wlad y Basg yn clywed ei waith yn cael ei ddarllen am y tro cyntaf yn Gymraeg ar Faes yr Eisteddfod Genedlaethol yn Yr Wyddgrug.
Bernardo Atxaga sydd wedi dod i Gymru oherwydd taith y mae'r mudiad Llenyddiaeth Cymru Dramor wedi ei threfnu.
Ddydd Gwener yn Y Babell Lên mae'n lansio'r copi diweddara o gylchgrawn Tu Chwith sy'n cynnwys cyfeithiad Cymraeg o un o'i gerddi.
Yn ogystal â chael eu darllen yn y gwreiddiol ac yn Gymraeg, fe fydd y ddau fersiwn yn cael eu cyhoeddi yn y cylchgrawn.
Y bardd a'r rapiwr Aneirin Karadog sydd wedi addasu ei gerdd.
Mae nofelau Bernardo, sydd wedi ennill gwobr lenyddol genedlaethol Sbaen, wedi cael eu cyfieithu i fwy na 20 o ieithoedd.
'Braint'
Yn ogystal â Bernardo, mae beirdd fel Kirmen Uribe, Rikardo Arregi a'r bardd Eing-Gymreig Patrick Jones wedi cyfrannu cerddi sydd wedi eu haddasu.
Dywedodd Catrin Dafydd, golygydd Tu Chwith, fod cynnwys gwaith Bernardo yn y cylchgrawn yn "fraint".
"Mae wedi ennill sawl gwobr lenyddol yng Ngwlad y Basg am ei farddoniaeth yn ogystal â'i nofelau ac yn gwerthu miloedd ar filoedd o gyfrolau bob blwyddyn," meddai.
Dywedodd ei bod hi'n fwriad i barhau i wahodd beirdd o dramor i gyfrannu gwaith fydd yn cael ei addasu.