BBC Home
Explore the BBC
Chwiliwch yn Gymraeg
---------------
---------------
---------------
BBC Vocab
OFF / I FFWRDD
» Turn ON
Troi YMLAEN
» What is VOCAB? Beth yw GEIRFA?
SAFLEOEDD
ERAILL BBC
---------------
NEWYDDION
MEWN IEITHOEDD ERAILL
Arabic
Espanol
Russian
Chinese
Diweddarwyd: Dydd Iau, 9 Awst 2007, 09:38 GMT 10:38 UK
Julie yw Dysgwr y Flwyddyn
Julie McMillan
Julie: Erbyn hyn y Gymraeg yw iaith y teulu

Julie MacMillan o Dreorci, y Rhondda, yw enillydd cystadleuaeth Dysgwr y Flwyddyn.

Aeth Julie, mam i ddau, ddim i ysgol Gymraeg ond erbyn hyn mae hi a'i theulu yn siarad Cymraeg gartref.

Mae wedi bod yn dysgu'r iaith ers dim ond tair blynedd.

Ym mis mis Medi bydd hi'n rhoi'r gorau i'w gwaith fel swyddog treth ac yn dysgu Cymraeg i oedolion.

Dywedodd ei bod wrth ei bodd ac "nad oedd yn disgwyl ennill."

"Roedden ni'n arfer siarad Saesneg yn y tŷ.

"Ac roedd yn anodd newid iaith y tŷ ond nawr ry'n ni'n siarad dim ond Cymraeg ."

Cafodd ei henwebu i'r gystadleuaeth gan brifathro Ysgol Gynradd Ynyswen, Treorci, sy'n gwerthfawrogi ei gwaith gwirfoddol hi i'r ysgol.

Roedd tri ymgeisydd arall yn y rownd derfynol.

Cafodd y seremoni wobrwyo ei chynnal yng ngwesty Plas Hafod, Gwernymynydd ger Yr Wyddgrug nos Fercher.

Yr ymgeiswyr eraill oedd Scott Rowley o Lannau Dyfrdwy, David Chan o Fangor ac Albie Abbott o Sir Gaerfyrddin.




SIR FFLINT A'R CYFFINIAU 2007

NEWYDDION

CEFNDIR

YR ORSEDD

O'R ARCHIF

GWEFAN



Gwasanaethau ebost | ticer newyddion | Amodau Defnyddio | Preifatrwydd a Chwcis


Yn ôl i'r brig ^^