BBC Home
Explore the BBC
Chwiliwch yn Gymraeg
---------------
---------------
---------------
BBC Vocab
OFF / I FFWRDD
» Turn ON
Troi YMLAEN
» What is VOCAB? Beth yw GEIRFA?
SAFLEOEDD
ERAILL BBC
---------------
NEWYDDION
MEWN IEITHOEDD ERAILL
Arabic
Espanol
Russian
Chinese
Diweddarwyd: Dydd Gwener, 10 Awst 2007, 07:57 GMT 08:57 UK
Tlws y Cerddor i ddyn lleol
Wyn Pearson
Wyn Pearson yn gitarydd amlwg yng Nghymru a thu hwnt
Wyn Pearson o'r Rhewl, Mostyn, Sir y Fflint enillodd Tlws y Cerddor yn Eisteddfod Sir Fflint a'r Cyffiniau.

Mewn seremoni nos Fercher y cafodd Mr Pearson ei anrhydeddu.

Y dasg i'r wyth cystadleuydd oedd llunio unawd offerynnol ddigyfeiliant ddisgrifiadol neu destunol fyddai'n addas i berfformiwr o safon uchel ac na fyddai'n para'n fwy nag wyth munud.

Y beirniaid oedd Richard Elfyn Jones a Guto Pryderi Puw, y ddau'n cytuno mai gwaith "Jelsam Wise" oedd yn haeddu'r wobr.

Cafodd Mr Pearson ei eni ym Mhrestatyn yn 1972 ac fe gafodd ei addysg yn Ysgol Bryn Pennant, Mostyn, ac Ysgol Uwchradd Treffynnon.

Teledu a ffilm

Yno y dechreuodd ei ddiddordeb mewn cerddoriaeth gyda chefnogaeth y pennaeth cerdd, Howard Fisher.

Roedd yn aelod o Seindorf Arian Treffynnon ac yna Seindorf y Parlwr Du a Seindorf Llaneurgain.

Cafodd radd B.Mus o Brifysgol Cymru Bangor, Diploma mewn Technoleg Cerdd a Thechnegau Recordio ac yna M.Mus.

Mae'n gitarydd amlwg yng Nghymru a thu hwnt ac wedi gweithio fel cerddor sesiwn ar radio, teledu a ffilm gyda chantorion enwog fel Katherine Jenkins a Michael Ball.

Yn ddiweddar mae wedi bod yn gweithio gyda Siân James ar ei halbwm diweddara.

Mae Cerddorda Genedlaethol Cymru a'r Gymdeithas er Hyrwyddo Cerddoriaeth Newydd wedi perfformio rhai o'i gyfansoddiadau.

Enillodd gystadleuaeth Enbsemble Offerynnol yn Eisteddfod Llanelli 2000.

Y flwyddyn nesaf bydd yn cyhoeddi cyfrol hyfforddi a DVD, Hybrid Picking.

Mae'n byw yn Rhewl, Mostyn, gyda'i bartner Angie a'u mab chwech oed, Lewis.

Derbyniodd y tlws, rhodd gan Urdd Cerddoriaeth Cymru, a £500 gan Glwb Rotari Yr Wyddgrug.

Cafodd ysgoloriaeth o £2,000 gan Sefydliad Cenedlaethol Cymru-America i hyrwyddo ei yrfa.




SIR FFLINT A'R CYFFINIAU 2007

NEWYDDION

CEFNDIR

YR ORSEDD

O'R ARCHIF

GWEFAN



Gwasanaethau ebost | ticer newyddion | Amodau Defnyddio | Preifatrwydd a Chwcis


Yn ôl i'r brig ^^