Enillydd: 'Awdur aeddfed, sylwgar a disgybledig'
|
Mary Annes Payne o Ynys Môn yw Prif Lenor Rhyddiaith Eisteddfod 2007.
Ysgrifennodd y gyfrol Rhodd Mam sy'n olrhain hanes merch chwech oed.
Tasg yr 13 wnaeth gystadlu oedd cyfrol heb fod dros 40,000 o eiriau ar y thema plentyndod.
Y tri beirniad oedd Jane Edwards, John Gruffydd Jones ac Angharad Price.
Ond unwaith eto eleni doedd 'na ddim cytuno.
'Yn gafael'
Ysgrifennodd Mary gyfrol "oedd yn gafael o'r dechrau ac roedden ni'n argyhoeddiedig mai plentyn oedd yn siarad," meddai'r beirniaid.
Dywedodd Jane Edwards wrth draddodi fod hon yn "stori anghonfensiynol".
Ac er nad oedd Angharad Price yn teimlo bod 'na ddigon o ddatblygiad o ran cymeriadu roedd hi'n cytuno y byddai'r darllenwyr yn cael y pleser mwya o ddarllen y gyfrol.
Dadfeilio
"Dyma awdur aeddfed, sylwgar a disgybledig," meddai Ms Edwards.
Mae Rhodd Mam, sy'n olrhain hanes Luned, wedi ei hysgrifennu drwy ei llygaid hi ac yn nhafodiaith cymuned wledig ym Môn ddechrau'r 1960au.
Yn rhannol mae'n hunangofiannol, yn portreadu ffordd o fyw a oedd eisoes yn dechrau dadfeilio.
Mae Mary'n enedigol o Frynsiencyn ac yn gynddisgybl Ysgol David Hughes, Porthaethwy.
 |
Dyma awdur aeddfed, sylwgar a disgybledig
|
Graddiodd gydag anrhydedd o Goleg Normal Bangor mewn Addysg a Llenyddiaeth Saesneg.
Bu'n athrawes mewn ysgol gynradd yng Nghaergybi cyn symud i'r Alban a gweithio fel tiwtor Saesneg ail iaith i ffoaduriaid o Fietnam ac yna i blentyn o Nigeria.
Wedi dychwelyd i Gymru bu'n athrawes dros dro mewn ysgolion yn Sir Drefaldwyn ac Ynys Môn.
 |
Roedd (y gyfrol) yn gafael o'r dechrau ac roedden ni'n argyhoeddiedig mai plentyn oedd yn siarad
|
Hyfforddodd fel athrawes dyslecsia a threulio cyfnodau'n dysgu plant ag anghenion arbennig cyn mynd ati o ddifri i ysgrifennu.
Cyhoeddodd nofel, Hogyn o Syrcas yn 2003 ac fe ddaeth yn agos at ennill y Fedal Ryddiaith yn Eisteddfod Tyddewi yn 2002.
Mae'n briod â Gareth ac mae eu plant, Emyr ac Olwen, yn eu harddegau.
Rhoddir y Fedal a rhodd o £750 gan Siop Y Siswrn Yr Wyddgrug a Wrecsam.