Dywedodd Dr Crameri ei bod yn dymuno'n dda i'r Eisteddfod.
|
Cafodd Seremoni i groesawu'r Cymry o dramor ei chynnal yn yr Eisteddfod eleni a hynny ar ei newydd wedd.
Y llynedd doedd 'na ddim seremoni swyddogol.
Ddydd Mercher fe gafodd y Cymry alltud eu croesawu o lwyfan y brifwyl gan Yr Archdderwydd.
Roedd y seremoni o dan ofalaeth Gorsedd y Beirdd eleni ac fe'i cynhaliwyd cyn seremoni'r Fedal Ryddiaith.
Roedd 'na tua 120 o bobl o dramor yn y seremoni.
Dywedodd yr Archdderwydd Selwyn Iolen wrth eu croesawu ei fod yn cael pleser arbennig o'u "gweld adre".
Diolch am y croeso
Yna fe wnaeth groesawu Dr Melya Hughes Crameri, Arweinydd Cymru a'r Byd, i'r llwyfan.
Mae hi'n byw yn California er iddi gael ei geni yn Llundain i rieni o Gymru.
Bu hefyd yn byw tan yn Y Swistir lle sefydlodd gwmni Canolfan Ymchwil Evolva.
Mae ei rhieni rwan yn byw yn Abergele a'i mam yn wreiddiol o Sir y Fflint.
Mewn anerchiad byr fe wnaeth Dr Crameri ddiolch am y croeso a dymuno'n dda i'r Eisteddfod.
Yna fe wnaeth yr Archdderwydd ofyn i bob un oedd wedi dod o dramor godi er mwyn iddyn nhw dderbyn croeso Cymru.