Dywed yr Eisteddfod fod y canlyniadau yn 'galanogol tu hwnt'
|
Mae'r Eisteddfod Genedlaethol yn 'fwy na gwyrdd' yn ôl asesiad gan uned o Brifysgol Cymru Bangor.
Dywed swyddogion yr Eisteddfod Genedlaethol eu bod wedi ymateb i'r her a
Osodwyd y llynedd i fod yn gynaliadwy.
Roedd yr asesiad hefyd yn ystyried effaith yr Eisteddfod ar y gymdeithas a'r economi.
Yn ôl Einir Young, Pennaeth Datblygu Cynaliadwy Sefydliad Cymreig, Prifysgol Cymru Bangor, fe sgoriodd yr Eisteddfod yn uchel yn gymdeithasol.
Cafodd y canlyniadau eu cyhoeddi ar Faes yr Eisteddfod gyda mwy na dim ond gwastraff ac ailgylchu yn cael eu hystyried.
Llwyddiannus iawn
"Mae'n bwysig cael y cydbwysedd rhwng y bobl a'r blaned a'r amgylchedd," eglurodd Dr Young.
"Fe wnaeth yr Eisteddfod sgorio'n uchel yn gymdeithasol wrth ddod â phobl at ei gilydd."
Ond dywedodd bod y gwaith tu ôl i'r llenni yn llwyddiannus.
Roedd yr Eisteddfod wedi derbyn her yn 2006 gan sefydliadau gan gynnwys merched y Wawr, Sefydliad y Merched, Cymorth Cyntaf a WWF, i fod yn fwy gwyrdd ac i fod yn fwy carbon-niwtral erbyn eleni.
Mae 'na agweddau y tu hwnt i reolaeth y trefnwyr ond mae'r hyn sy'n cael eu trefnu yn llwyddiannus iawn, esboniodd Dr Young.
"Mae'r wythnos yma o Gymreictod yn bwysig i gynaladwyedd sy'n fwy na dim ond bod yn amgylcheddol," ychwanegodd Dr Young.
"Mae'r Eisteddfod eisoes yn ystyried cynaladwyedd ac mae ganddyn nhw fel digwyddiad teithiol rhan allweddol i'w chwarae ac i annog pobl eraill.
"Yr her eleni ydi bod yr Eisteddfod yn gallu dylanwadu ar bobl a chymdeithasau i gydweithio ac i symud ymlaen."
Dywedodd Hywel Wyn Edwards, trefnydd yr Eisteddfod, eu bod yn falch iawn bod yr Eisteddfod wedi dechrau ar y broses yma cyn cael eu gwthio.
"Rydym yn ceisio sicrhau pethau newydd bob blwyddyn."
Ychwanegodd Elfed Roberts, Prif Weithredwr yr Eisteddfod, bod hwn yn adroddiad pwysig.
"Mae'r canlyniadau yn galonogol tu hwnt ond mae'n rhaid edrych i'r dyfodol a datblygu ymhellach yn y maes yma."