BBC Home
Explore the BBC
Chwiliwch yn Gymraeg
---------------
---------------
---------------
BBC Vocab
OFF / I FFWRDD
» Turn ON
Troi YMLAEN
» What is VOCAB? Beth yw GEIRFA?
SAFLEOEDD
ERAILL BBC
---------------
NEWYDDION
MEWN IEITHOEDD ERAILL
Arabic
Espanol
Russian
Chinese
Diweddarwyd: Dydd Iau, 9 Awst 2007, 06:19 GMT 07:19 UK
On'd oedden nhw'n ddyddiau da?
Pobl ar gyfrifiadur (generig)
Mae gwefan lleaethpawb.com yn cyd-fynd â chyfres deledu newydd
Mae gwefan newydd yn Gymraeg yn cynnig gwasanaeth i alluogi pobl i ailgwrdd â hen ffrindiau trwy ddefnyddio eu lluniau personol.

Cafodd y wefan - lleaethpawb.com - ei lansio yn yr Eisteddfod ac mae'n cydfynd â chyfres deledu fydd ar S4C.

Drwy chwilio yn ôl cyfnod, lleoliad ac enw, bydd yn bosibl i bobl gysylltu eto â hen ffrindiau a chlywed beth yw eu hanes ers i'r llun gwreiddiol gael ei dynnu.

Dywed Non Griffith o gwmni teledu Cwmni Da fod y gwasanaeth ar gael yn rhad ac am ddim.

"Os edrychwch ar unrhyw hen lun, boed yn drip dosbarth, noson allan neu'n gêm rygbi neu bêl-droed fawr, rydych yn dechrau meddwl yn syth beth sydd wedi digwydd i'r bobl yn y llun," meddai.

'Unigryw'

"Rydym i gyd yn gwybod sut mae gwefannau fel Friends Reunited a Facebook wedi dal dychymyg y cyhoedd, ond yr hyn sy'n unigryw am lleaethpawb.com yw ei bod i gyd yn ymwneud â lluniau ffotograff."

Mae tîm lleaethpawb.com yn apelio i'r cyhoedd i ddod â'u hen ffotograffau i Bafiliwn S4C ar faes yr Eisteddfod.

Mae gwefan lleaethpawb.com yn cyd-fynd â chyfres deledu newydd o'r enw Lle Aeth Pawb? i'w darlledu ar S4C yn 2008.

Cwmni Da, sydd wedi'i leoli yng Nghaernarfon, Gwynedd, sydd y tu ôl i'r wefan a'r gyfres deledu.


SIR FFLINT A'R CYFFINIAU 2007

NEWYDDION

CEFNDIR

YR ORSEDD

O'R ARCHIF

GWEFAN


CYSYLLTIADAU RHYNGRWYD:
Dyw'r BBC ddim yn gyfrifol am gynnwys safleoedd rhyngrwyd allanol


Gwasanaethau ebost | ticer newyddion | Amodau Defnyddio | Preifatrwydd a Chwcis


Yn ôl i'r brig ^^