Tony Bianchi enillodd Wobr Goffa Daniel Owen
|
Mae dryswch ynghylch rheolau Gwobr Goffa Daniel Owen ar ôl i un nofel eleni gael ei chyhoeddi cyn canlyniad y gystadleuaeth.
Dywedodd Hywel Wyn Edwards, Trefnydd yr Eisteddfod, fod "ysbryd y rheol o bosib wedi ei dorri" ac y byddai'r Eisteddfod yn ystyried a fydd angen diwygio'r rheolau.
"Bydd angen inni drafod â'r wasg a'r Cyngor Llyfrau er mwyn osgoi digwyddiad tebyg yn y dyfodol.
"Mae'n bosib bod hyn wedi tynnu oddi ar y clod y mae enillydd y gystadleuaeth wedi ei gael". Tony Bianchi enillodd Wobr Goffa Daniel Owen.
Mae awdur y nofel, Gwylliaid Glyndŵr, oedd eisoes wedi ei chyhoeddi, wedi ymateb mewn datganiad i raglen Taro'r Post ar BBC Radio Cymru.
'Ymrwymo'
Dywedodd Daniel Davies, newyddiadurwr sydd wedi gweithio i'r Cambrian News ac yn gweithio i'r BBC, na wnaeth dorri unrhyw reol gan nad oedd "wedi ymrwymo i unrhyw wasg" pan anfonodd y nofel i'r gystadleuaeth.
Mae wedi dweud ei fod wedi anfon y nofel i'r gystadleuaeth ddiwedd Tachwedd ac i Wasg Y Lolfa ym mis Ionawr.
Roedd wedi meddwl, meddai, y byddai'r nofel yn y wasg am rai misoedd gan fod ei waith blaenorol yn y wasg am gyfnod hir.
"Roeddwn i wedi cystadlu er mwyn cael beirniadaeth ac yn meddwl gweithio ar sail y feirniadaeth honno cyn i'r nofel gael ei chyhoeddi," meddai.
Llythyr Pennal
"Doeddwn i felly ddim wedi gweld yr angen i sôn wrth wasg Y Lolfa fy mod wedi ymgeisio yn y gystadleuaeth."
Ei nofel am ymgais herfeiddiol i ddwyn Llythyr Pennal o Lyfrgell Genedlaethol Cymru oedd nofel y mis Cyngor Llyfrau Cymru ym Mehefin.
Dywedodd un o feirniad y gystadleuaeth eleni, Harri Pritchard Jones, wrth y BBC y dylid newid rheol y gystadleuaeth: "Dylai awdur ymrwymo na fydd y nofel yn cael ei chyhoeddi cyn y gystadleuaeth.
"Os yw rhywun yn anfon gwaith i gystadleuaeth, does bosib y byddai'n meddwl bod ganddyn nhw ryw obaith o ennill".
Dywedodd Dafydd Whittall, Cadeirydd Cyngor yr Eisteddfod, nad oedd unrhyw reol wedi ei thorri ond y byddai'r Eisteddfod yn edrych eto ar reolau'r gystadleuaeth.
"Gellid gofyn i gystadleuwyr arwyddo i ddweud nad ydyn nhw'n cyflwyno gwaith a fydd yn cael ei gyhoeddi cyn y gystadleuaeth.
"Mae'n bwysig ein bod ni'n rhoi'r bri ucha ar enillydd y Daniel".
Dywedodd Lefi Gruffudd o Wasg Y Lolfa: "Hoffwn i 'se'r awdur wedi rhoi gwybod i ni.
"Ond does dim ots gen i nawr am fod y cyhoeddusrwydd yn beth da".