Dywed ysgrifennydd yr Undeb fod angen ystyried opsiynau heblaw cau
|
Mae tynged ysgolion bach yn fater "o bwys addysgol a chymdeithasol," yn ôl arweinydd undeb athrawon UCAC.
Mewn trafodaeth ar Faes yr Eisteddfod dywedodd Gruff Hughes, ysgrifennydd cyffredinol yr undeb, fod angen ystyried opsiynau eraill heblaw cau ysgol.
"Cadw Ysgol - Cynnal Cymuned" oedd testun y drafodaeth gafodd ei chynnal gan yr undeb yn Yr Wyddgrug ddydd Mercher.
"Rhaid edrych ar ffactorau amrywiol ar wahân i faterion cyllidol wrth drafod dyfodol ysgol," meddai Mr Hughes.
"Pan mae ysgol yn cau, mae'n cau am byth - rhaid felly bod yn hollol sicr mai hwn yw'r dewis cywir."
Dywed y trefnwyr nad yw pawb yn sicr beth yw'r opsiynau pan mae ysgol dan fygythiad.
Oblygiadau
"Mae wedi dod i sylw'r undeb fod rhieni ac weithiau cynghorwyr a hyd yn oed athrawon yn ansicr ynglŷn â'r opsiynau ar gael," medd Elaine Edwards, swyddog polisi'r undeb.
Mae Liz Saville Roberts yn un sydd wedi sôn yn gyhoeddus beth yw effeithiau cau ysgol ar y gymuned ac ar iaith.
"Nid yw ysgol yn ynys yng nghanol cymuned ... mae ganddi rôl bwysig yn gymdeithasol, yn ieithyddol yn ddiwylliannol ac yn economaidd.
 |
Rhaid edrych ar ffactorau amrywiol ar wahân i faterion cyllidol wrth drafod dyfodol ysgol
|
"Dydw i ddim yn credu bod y materion hyn yn cael ystyriaeth lawn wrth drafod dyfodol ein hysgolion, yn ysgolion gwledig neu yn drefol.
"Does dim dwywaith bod cadw ysgol fach ar agor yn gostus ond oes rhywun wedi mesur y gwir gost i'r gymuned os caeir yr ysgol?
"Nid adeilad sydd ar agor o 9 tan 4 yn ystod yr wythnos ac ar gau yn ystod y gwyliau yw ysgol...mae'n rhaid ei datblygu i fod yn adnodd, yn ganolfan ac yn ganolbwynt y gymuned."
Gofynion y gymuned
Bu Meriel Parry, sy'n brifathrawes ar ddwy ysgol, yn sôn am y problemau sydd yn dod gyda'r cyfrifoldeb o redeg dwy ysgol a sut mae hi wedi eu goresgyn.
"Mae 'na lawer o waith - yn enwedig i'r Pennaeth, ond gyda chefnogaeth y rhieni, y plant, yr athrawon a'r Llywodraethwyr, mae'n bosib sicrhau bod y cynllun yn llwyddo," meddai.
Mae Cyngor Sir Ddinbych yn ystyried ail-strwythuro ysgolion.
Un sy'n rhiant-lywodraethwr ar ysgol Pant Pastynog, yn Nyffryn Clwyd, ydi Meryl Pierce.
"Pan gyhoeddodd Sir Ddinbych ei chynllun ail strwythuro ysgolion yn 2005, roedd ein hysgol ni dan fygythiad i gau.
"Dim ond 26 o blant oedd yn yr ysgol, ond erbyn Medi 2007, bydd y nifer wedi dyblu bron a bydd 48 o blant yn yr ysgol.
"Yn ein barn ni, mae'r ysgol bellach yn ateb anghenion a gofynion y gymuned, ac o'r herwydd mae modd achub yr ysgol.
"Rydym ni yn Ysgol Pant Pastynog wedi ymateb yn unfryd, yn frwdfrydig ac yn gadarnhaol i'r her."