BBC Home
Explore the BBC
Chwiliwch yn Gymraeg
---------------
---------------
---------------
BBC Vocab
OFF / I FFWRDD
» Turn ON
Troi YMLAEN
» What is VOCAB? Beth yw GEIRFA?
SAFLEOEDD
ERAILL BBC
---------------
NEWYDDION
MEWN IEITHOEDD ERAILL
Arabic
Espanol
Russian
Chinese
Diweddarwyd: Dydd Mercher, 8 Awst 2007, 09:57 GMT 10:57 UK
Barnwr: 'Carchar i'r gogledd'
Prison Cell
Byddai carchar yn hybu economi gogledd Cymru, meddai'r Barnwr Evans
Mae barnwr amlwg o blaid yr ymgyrch i agor carchar yng ngogledd Cymru.

Yn ôl y Barnwr Roderick Evans, mae diffyg carchar yn y gogledd yn golygu ei bod yn anoddach ail-sefydlu ac ail-integreiddio troseddwyr ar ôl bod yn y carchar.

Mae'n cyfeirio at hyn mewn seremoni ar Faes y Brifwyl i ddathlu canlmlwyddiant y Gwasanaeth Prawf.

Dywedodd fod diffyg carchar yn y gogledd yn "ddrwg o safbwynt carcharor, yn ddrwg o safbwynt eu teuluoedd nhw, yn ddrwg o safbwynt y cyhoedd gan ei fod yn anodd iawn ail-sefydlu pobl yn ei cymdeithas.

"Mae swyddogion prawf, bargyfreithwyr a chyfreithwyr yn ymweld â phobl sydd yn bell iawn o ogledd Cymru ac mae hynny'n anodd."

Ar hyn o bryd mae teuluoedd carcharorion o'r gogledd yn gorfod teithio i Lerpwl neu Amwythig ac yn bellach.

Does dim carchar i fenywod yng Nghymru.

Carchar Abertawe
Mae angen carchar yn y gogledd fel yr un yn Abertawe, medd y Barnwr

"Wrth sefydlu carchar yng ngogledd Cymru fe fyddai'r problemau hynny'n cael eu hateb," meddai'r barnwr.

"Fe fyddai carchar yn hybu economi gogledd Cymru ac fe fyddai hynny yn hwb i'r gymdeithas ...

"Mae angen carchar aml bwrpas, un ar gyfer dynion, menywod a phobl ifanc."

'Gwarth'

Dywedodd ei fod yn "warth" nad oedd carchar i fenywod yng Nghymru.

"Dwi wedi cael fy magu yn Abertawe lle mae carchar wedi bod dros 150 o flynyddoedd.

"Fel mae'n digwydd, mae reit yng nghanol ardal cae yng nghanol Abertawe a does neb byth yn cael unrhyw broblem.

"Beth sydd eisiau arnom ni yw carchar caeëdig fel sydd yn Abertawe a Chaerdydd."

Dywedodd Carol Moore, Pennaeth y Gwasanaeth Prawf yn y Gogledd, ei bod yn croesawu'r sylwadau.

Pum carchar

Ar hyn o bryd mae pum carchar yng Nghymru, yn y de, yng Nghaerdydd, Abertawe, Brynbuga, Prescoed a Phen-y-bont ar Ogwr.

Ym Mehefin, cyhoeddwyd adroddiad gan y Pwyllgor Materion Cymreig yn San Steffan a oedd yn beirniadu safon darpariaeth deunydd yn y Gymraeg mewn rhai carchardai ac yn galw am fynd i'r afael â lefelau uchel o glefyd meddwl ymysg carcharorion Cymru.

Ymateb yr oedd yr adroddiad i bryderon bod hanner y carcharorion o Gymru yn cael eu cadw y tu allan i'r wlad.

Mae'r pwyllgor wedi galw am gyfleusterau newydd yn y gogledd i ddal hyd at 500 o garcharorion gwrywaidd.

Dywedodd yr adroddiad fod angen mwy o leoedd yng ngharchardai'r de, mwy o gyfleusterau i garcharorion iau yng Nghymru ac ailfeddwl am sut y mae carcharorion benywaidd yn cael eu trin.




SIR FFLINT A'R CYFFINIAU 2007

NEWYDDION

CEFNDIR

YR ORSEDD

O'R ARCHIF

GWEFAN


HEFYD
Carchar: 'Mwy o bryder'
01 Awst 07 |  Newyddion
ASau: Galw am fwy o garchardai
06 Meh 07 |  Newyddion
Cynllun i ehangu carchar preifat
02 Mai 07 |  Newyddion
Carchar i'r gogledd 'gam yn nes'
13 Maw 07 |  Newyddion
'Angen carchar yn y gogledd'
01 Maw 07 |  Newyddion
Carchardai Cymru 'yn llawn'
20 Hyd 05 |  Newyddion

CYSYLLTIADAU RHYNGRWYD:
Dyw'r BBC ddim yn gyfrifol am gynnwys safleoedd rhyngrwyd allanol


Gwasanaethau ebost | ticer newyddion | Amodau Defnyddio | Preifatrwydd a Chwcis


Yn ôl i'r brig ^^