Mae Mr Brunstrom wedi dysgu'r iaith yn rhugl
|
Mae tri aelod o staff Heddlu Gogledd Cymru wedi cael eu gwobrwyo ar faes yr Eisteddfod Genedlaethol am hybu'r iaith Gymraeg.
Ddydd Mawrth derbyniodd Lynda Brodie wobr 'Dysgwr y Flwyddyn yr Heddlu' am ei gwaith caled a'i hymdrechion i ddatblygu ac ymarfer ei sgiliau Cymraeg.
Yn ystod yr un seremoni ym Mhabell y Dysgwyr cafodd Julie Foster a Michelle Richards wobr 'Pencampwr Iaith Gymraeg y Flwyddyn yr Heddlu' ar y cyd, am eu gwaith caled a'u hymdrechion i hyrwyddo a datblygu materion dwyieithog yn yr Adran Gweinyddu Cyfiawnder, ac am annog staff i wella a defnyddio eu sgiliau Cymraeg yn y gwaith.
Wrth dderbyn ei gwobr dywedodd Lynda, sy'n gweithio yn y pencadlys ym Mae Colwyn: "Rhaid i mi ddiolch o galon i bawb am fy enwebu. Rwyf yn ddiolchgar i bawb, staff, cyd-weithwyr ac ymwelwyr, am yr help rwyf wedi ei dderbyn ar fy nhaith wrth ddysgu Cymraeg."
'Etifeddiaeth'
Ymateb Julie a Michelle o Brestatyn oedd: "Rydym wrth ein boddau yn cael derbyn y wobr. Mae'r ddwy ohonom yn hollol ymroddedig i godi proffil yr iaith Gymraeg o fewn yr Adran Gweinyddu Cyfiawnder, ac efo'r cyhoedd.
"Cymraeg yw ein hiaith genedlaethol, ac mae hi'n bwysig iawn hybu ein hetifeddiaeth," meddent gan ddiolch i'r gymuned ac i Ysgol y Llys, Prestatyn, am y gefnogaeth sydd wedi bod o fydd i'r heddlu, y plant a'r athrawon.
Ychwanegodd y Prif Gwnstabl, Richard Brunstrom: "Rydym yn falch iawn o gael y cyfle unwaith eto i gydnabod ymdrechion ein staff i ddatblygu a defnyddio eu sgiliau iaith newydd yn ogystal â hybu dwyieithrwydd yn heddlu Gogledd Cymru.
"Mae Lynda yn enghraifft o ddysgwr awyddus a brwd. Mae hi'n defnyddio bob cyfle i ymarfer ei sgiliau Cymraeg yn ei gwaith. Dyna pam mae hi'n haeddu ei gwobr.
'Ethos cefnogol'
"Mae Julie a Michelle wedi cyflawni llawer iawn o waith da wrth hyrwyddo mwy o ddefnydd o'r iaith Gymraeg fel iaith fusnes yn yr Adran Gweinyddu Cyfiawnder ym Mhrestatyn. Maen nhw wedi datblygu nifer o fentrau da a chreu ethos cefnogol yno i siaradwyr Cymraeg a dysgwyr fel ei gilydd.
"Yn ogystal â hyn mae Julie yn dysgu Cymraeg ei hun ar hun o bryd. Rydym ni angen pobl fel Julie a Michelle yng Nghymru er mwyn normaleiddio'r defnydd o'r iaith Gymraeg fel iaith fusnes bob dydd".
Fel rhan o'i gwobr bydd Lynda, Julie a Michelle yn derbyn cwrs a llety am benwythnos yn Nant Gwrtheyrn.
"Mae'n fraint fawr i mi fedru cynnig y gwobrau hyn ar ran Bwrdd Cyfarwyddwyr Nant Gwrtheyrn gan i'r enillwyr fod wedi dangos brwdfrydedd arbennig yn eu cefnogaeth o'r Gymraeg. Bydd trochiad yn yr iaith yn ystod eu harhosiad yn y Nant yn atgyfnerthu'r holl waith da sydd wedi ei wneud eisoes ac yn rhoi mwynhad a difyrrwch ar yr un pryd. Mawr ddiolch i'r Heddlu am eu cefnogaeth," meddai Jeff Williams-Jones.