Mae 'na anfodlonrwydd fod y Cyngor yn gwerthu llyfrau ar y Maes
|
Gall siopau llyfrau Cymraeg ar Faes yr Eisteddfod ddim cystadlu â stondin y Cyngor Llyfrau.
Dyna ddywed rhai llyfrwerthwyr sy'n anhapus bod y Cyngor yn gwerthu ar y Maes hefyd.
Fe fydd undeb yn cael ei sefydlu yn y dyfodol i gynrychioli gwerthwyr llyfrau Cymraeg.
Un sydd â stondin ar y Maes ydi Gwyn Siôn Ifan, rheolwr siop Awen Meirion yn Y Bala.
"Mae llai o siopau yn dod i'r Eisteddfod am fod y Cyngor Llyfrau yma yn gwerthu ac yn methu cystadlu efo nhw," meddai.
Dechrau trafodaeth
"All siopwyr ddim fforddio'r unedau fel sydd gan y cyngor na staffio'r unedau a'r siopau yn ôl adre.
"Dechrau'r drafodaeth ydi hyn ac mae angen siarad ymysg ein gilydd."
Mae rhai siopwyr llyfrau yn anfodlon gyda'r trefniant
|
Ond fe ddywedodd eu bod wedi cael cyfarfod efo'r cyhoeddwyr ac maen nhw'n bwrw ymlaen i sefydlu undeb o'r newydd a chael trafodaeth gyda'r undebwyr a'r cyngor.
Un arall sydd ddim yn gwbl fodlon ydi Eirian James o Palas Print yng Nghaernarfon.
"Rhaid ystyried y costau a be bynnag fyddwn ni'n ei gynnig fe fydd yn cystadlu gyda'r Cyngor Llyfrau," meddai.
"Mae ganddyn nhw stondin mawr ac amlwg ac felly mae'r siopwyr o dan anfantais yn syth.
"Mae'r cyngor llyfrau yn derbyn arian cyhoeddus a nhw ydi'n prif gyflenwyr drwy'r flwyddyn o ran llyfrau Cymraeg ac felly arnon ni mae'r risg yn mynd i eisteddfodau, nid y Cyngor Llyfrau."
Dywedodd Gwerfyl Pierce Jones, Cyfarwyddwr y Cyngor Llyfrau, nad ydi'r cyngor yn teimlo'n euog am y sefyllfa.
"Mae'r Cyngor Llyfrau yn gwbl ymrwymedig i siopau llyfrau Cymraeg ac yn gwneud popeth posib i sicrhau busnes iddyn nhw drwy gydol y flwyddyn.
"Asgwrn cefn y diwydiant ydi'r siopau llyfrau annibynnol.
"Mae'r cyngor yn trio ymateb i'r swyddogaeth ehangach, y cyfrifoldeb i'r diwydiant, i'r cyhoedd ac i'r awduron."
Dywedodd ei bod yn croesawu bod y siopwyr yn sefydlu undebau oherwydd bod "mawr angen hynny".
"Rydym yn falch ac yn barod i drafod a 100% tu ôl i'r siopau Cymraeg."